Canfod a negodi contractau ar gyfer digwyddiad

URN: PPLEVA6
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Gall y rhan fwyaf o'r cyfarpar, deunyddiau, gweithgareddau a gwasanaethau, a hyd yn oed y lleoliad, ar gyfer digwyddiad gael eu darparu gan gyflenwyr allanol. Dylid dewis y cyflenwyr hyn oherwydd y gallant ddarparu'r ansawdd a'r gwerth am arian mae arnoch eu hangen. Hefyd dylai fod cytundebau ysgrifenedig clir sy'n ymdrin â'r hyn y disgwylir iddynt ei gyflenwi ac am ba gost. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. adolygu'r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, masnachol ac eraill ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys risgiau a nodwyd 2. adolygu'r cynllun busnes ar gyfer y digwyddiad a manylu ar yr hyn mae arnoch ei angen oddi wrth gyflenwyr 3. sicrhau bod eich manylebau'n glir ac yn realistig 4. datblygu a chytuno ar feini prawf i ddewis cyflenwyr 5. casglu tendrau oddi wrth amrywiaeth o gyflenwyr posibl 6. gwerthuso tendrau yn erbyn meini prawf cytunedig a chyflwyno rhestr fer i benderfynwyr ddewis ohoni 7. **negodi'r contractau terfynol, gan** wneud yn siŵr **eich bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a**'r **rheoliadau perthnasol** 8. manteisio ar arbenigedd pobl eraill pan fo angen 9. gwneud yn siŵr bod yr holl gontractau'n cael eu cofnodi a'u storio gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad 10. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1.  pam mae contractau a mathau eraill o gytundeb ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau'n bwysig

2.  amrywiaeth o wahanol fathau o gontract/cytundeb a sut y gellid eu defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd

3.  y gofynion cyfreithiol a rheoliadol sylfaenol sy'n ymdrin â chontractau a chytundebau ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau

4.  pam mae'n bwysig cael gofynion a manylebau clir ar gyfer contractau

5.  pam y dylech lunio meini prawf i ddewis contractwyr posibl

6.  pam mae o gymorth cael amrywiaeth o wahanol gontractwyr posibl i ddewis o'u plith

7.  arferion da wrth werthuso tendrau

8.  sut i negodi contractau terfynol gyda'r cyflenwyr a ddewiswyd
9.  y prif fathau o gyflenwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw fel arfer wrth gynllunio a gweithredu digwyddiadau

10. y prosesau arferol ar gyfer contractio gyda chyflenwyr yn eich sector

11.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol

12.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

13.  hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am gontractio gyda chyflenwyr

14.  sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad

15.  cynllun busnes y digwyddiad a goblygiadau hyn ar gyfer negodi contractau

16.  prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gontractio gyda chyflenwyr

17. gweithdrefnau a dogfennau'ch sefydliad ar gyfer contractio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau'r sefydliad a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw 2. Rydych yn rhoi sylw personol i fanylion penodol sy'n hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus 3. Rydych yn canfod a gweithio gyda phobl a sefydliadau a all ddarparu cymorth gyda'ch gwaith 4. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd  sy'n hybu dealltwriaeth 5. Rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarparu adborth ac rydych yn ymateb yn briodol 6. Rydych yn cytuno'n glir ar yr hyn a ddisgwylir gan eraill ac yn eu dal i gyfrif 7. Rydych yn gwirio ymrwymiad unigolion i'w rolau mewn ffordd benodol o weithredu 8. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir, ac yn gwneud darpariaeth fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn atal cyflawni amcanion 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Dadansoddi 2. Blaenoriaethu 3. Gwerthuso 4. Negodi 5. Rheoli ariannol 6. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:

A5  Canfod, negodi a sicrhau lleoliad ar gyfer digwyddiad

C1  Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad

C5  Rheoli contractau ar gyfer digwyddiad

F13 Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad

yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People1st

URN gwreiddiol

PPLEVA6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

canfod; adnabod; negodi; contract; digwyddiadau