Datblygu a chytuno ar y cysyniad ar gyfer digwyddiad
Trosolwg
Cysyniad y digwyddiad yw'r man cychwyn ar gyfer pob agwedd arall ar y gwaith cynllunio a chyflawni. Dylai cysyniadau gael eu seilio ar ymchwil drwyadl i'r farchnad a dealltwriaeth dda o anghenion a diddordebau'r bobl sy'n debygol o gymryd rhan. Dylai hefyd gymryd i ystyriaeth ddigwyddiadau blaenorol neu ddigwyddiadau sy'n cystadlu, yn ogystal â chyflwyno elfennau arloesol a chreadigol. Mae'n bosibl y bydd Rheolwyr/Cydgysylltwyr Digwyddiadau'n creu cysyniadau eu hunain neu'n mireinio cysyniadau a ddatblygwyd gan gleientiaid neu eraill.
Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau neu bobl eraill sy'n ymwneud â'r camau cynnar yn y gwaith o gynllunio digwyddiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio canlyniadau ymchwil briodol
- cymryd i ystyriaeth ddigwyddiadau blaenorol neu ddigwyddiadau sy'n cystadlu
- sicrhau bod cysyniad y digwyddiad:
- â nodau ac amcanion realistig
- yn cael ei fynegi'n glir
- yn adlewyrchu delwedd a strategaethau'r cleient/sefydliad
- yn gallu cael ei gyflawni gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael
- yn ddeniadol i'r farchnad darged
- yn ddigon hyblyg i ganiatáu ar gyfer ffyrdd dewisol o weithredu
- yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- yn gallu cael ei werthuso
- darparu awgrymiadau realistig ynghylch cyfranwyr posibl
- nodi a dadansoddi'r potensial ar gyfer digwyddiad cynaliadwy
- cyflwyno'ch syniadau i benderfynwyr allweddol a negodi ffordd ymlaen
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. beth yw ystyr 'cysyniad digwyddiad'
2. y rhan mae 'cysyniad digwyddiad' yn ei chwarae yn y gwaith o gynllunio a gweithredu digwyddiad
3. y prif ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i ddatblygu 'cysyniad digwyddiad'
4. y wybodaeth mae ei hangen am ddigwyddiadau sy'n cystadlu, proffiliau cyfranogwyr posibl, digwyddiadau blaenorol a chyfranogwyr allweddol
5. pwysigrwydd cael nodau ac amcanion clir ar gyfer digwyddiad
6. y ffactorau a allai effeithio ar ddichonoldeb digwyddiadau
7. yr adnoddau sydd ar gael i ymchwilio i ddigwyddiadau tebyg a 'chysyniadau digwyddiad'
8. sut i wneud yr ymchwil angenrheidiol i ddigwyddiadau blaenorol, digwyddiadau sy'n cystadlu a chyfranogwyr allweddol
9. sut i asesu cynaliadwyedd posibl digwyddiad
10. sut i gyflwyno 'cysyniadau digwyddiad' i benderfynwyr mewn ffordd fydd yn ennyn eu cefnogaeth
11. pam y dylai 'cysyniad y digwyddiad' fod yn fras ac yn hyblyg
12. gwahanol fodelau codi tâl am ddigwyddiadau
13. pwysigrwydd penderfynu beth mae'r digwyddiad yn ceisio ei gyflawni a sut i wneud yn siŵr y bydd hyn yn digwydd
14. pam mae angen i chi ystyried a oes angen i unrhyw rai o ddeunyddiau'r digwyddiad fod ar gael mewn ieithoedd eraill
15. pam mae ar y digwyddiad angen nod y gellir ei werthuso
16. pwysigrwydd cadw cyfrinachedd masnachol
17. pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth gychwyn a datblygu'r digwyddiad
18. y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn y sector a'r cysyniadau maent wedi'u seilio arnynt
19. y mathau nodweddiadol o gyfranogwyr a chyfranwyr ar gyfer digwyddiad yn y sector
20. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy'n effeithio ar ddigwyddiadau yn y sector a'u prif oblygiadau o ran datblygu 'cysyniadau digwyddiad'
21. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
22. sut mae'ch 'cysyniad digwyddiad' yn adlewyrchu delwedd a strategaeth y sefydliad/cleient
23. hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am ymchwilio i 'gysyniadau digwyddiad' a'u negodi
24. sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
25. prif gyfrifoldebau'r penderfynwyr yr ydych yn negodi â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn herio'r sefyllfa bresennol mewn modd adeiladol ac yn chwilio am ddewisiadau amgen gwell 2. Rydych yn creu ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol 3. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 4. Rydych yn myfyrio'n rheolaidd ynghylch eich profiadau chi a rhai pobl eraill, ac yn defnyddio'r rhain i lywio gweithredoedd yn y dyfodol 5. Rydych yn cyflwyno syniadau a dadleuon yn argyhoeddiadol 6. Rydych yn dangos parch at farn a gweithredoedd pobl eraill 7. Rydych yn cyflawni sefyllfaoedd lle mae pawb ar ei ennill 8. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Ymchwilio 2. Trefnu gwybodaeth 3. Dadansoddi 4. Gwerthuso 5. Cyfathrebu 6. Negodi 7. Adrodd 8. Craffter busnes |
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau: yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau |