Coginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth, er enghraifft:
• mousse
• timbale
• ballotine
• quenelles
• soufflé
• confit
• galantine
Mae’r safon yn ymwneud â’r gwahanol fathau o ddofednod. Yna, mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â seigiau dofednod cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o ddofednod a faint sydd eu hangen ar gyfer y saig
- Gwirio’r dofednod i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y dofednod
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y dofednod
- Cyfuno’r dofednod gyda chynhwysion eraill
- Coginio’r dofednod i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw ddofednod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o ddofednod a chynhwysion eraill, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn dofednod
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r dofednod neu gynhwysion eraill
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
- Sut i gyfuno dofednod â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio gwahanol fathau o ddofednod yn ôl y dulliau a restrir a pham mae’r rhain yn bwysig
- Y dulliau gorffen priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau dofednod cymhleth
- Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig dofednod gymhleth a sut i wirio bod y dofednod wedi’u coginio’n gywir
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau dofednod cymhleth
- Sut i wirio ac addasu blas, tewychedd a lliw seigiau dofednod cymhleth
- Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau dofednod cymhleth
- Sut i storio seigiau dofednod cymhleth na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau dofednod cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Dofednod
15.1 hwyaden
15.2 iâr gini
15.3 gŵydd
15.4 cyw iâr
15.5 twrci
15.6 cywen (poussin)
2. Dulliau coginio
2.1 grilio / ar gridyll
2.2 sauté
2.3 rhostio
2.4 potsio
2.5 rhostio mewn pot
2.6 ffrio (dwfn / bas / tro ffrio)
2.7 pobi
2.8 stemio
2.9 en papillote
2.10 hollti
2.11 cochi
2.12 confit
2.13 sous vide
2.14 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws / sgleinio / dresin
3.3 cyflwyno