Paratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
URN: PPL3PC8
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’n ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a mathau o ddofednod.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o ddofednod mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y dofednod yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi’r dofednod
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r dofednod
5. Paratoi’r dofednod i gynnal ansawdd a bodloni gofynion y saig
6. Storio unrhyw ddofednod sydd wedi'u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Prif nodweddion gwahanol fathau o ddofednod
2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn dofednod ffres
3. Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r dofednod neu gynhwysion eraill
4. Gwerthoedd maethol pob math o ddofednod
5. Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o ddofednod i fodloni gofynion y saig
6. Darnau addas ar gyfer pob math o ddofednod
7. Amcangyfrif o’r cynnyrch defnyddiol wrth baratoi dofednod
8. Sut i reoli dognau er mwyn lleihau gwastraff i’r eithaf
9. Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau dofednod cymhleth
10. Y tueddiadau cyfredol mewn perthynas â pharatoi seigiau dofednod cymhleth
11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
12. Sut i storio dofednod sydd wedi’u paratoi
13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Dofednod
1.1 hwyaden
1.2 iâr gini
1.3 gŵydd
1.4 cyw iâr
1.5 twrci
1.6 cywen
- Dulliau paratoi
2.1 archwilio a pharatoi’r ceudod
2.2 tynnu esgyrn
2.3 sesno
2.4 marinadu
2.5 trimio
2.6 torri
2.7 ballotine
2.8 rhoi trwy gymysgydd
2.9 hidlo
2.10 stwffio / llenwi
2.11 clymu / rhwymo
2.12 galantine
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL3FP4
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, dofednod, cymhleth