Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â choginio a gorffennu seigiau cig cymhleth, er enghraifft:
•osso bucco
•coes oen wedi’i rhostio mewn pot
•cig eidion Wellington
Mae’r safon yn ymdrin â’r prif ddarnau a’r darnau eilaidd o amrywiaeth o fathau o gig. Wedyn mae’n mynd ymlaen i’r dulliau coginio a thechnegau gorffennu sy’n gysylltiedig â seigiau cig cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i goginio a gorffennu seigiau cig cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Coginio a gorffennu seigiau cig cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o gig mae ei angen ar gyfer y saig
2. Gwirio’r cig i sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffennu’r cig
4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffennu’r cig
5. Cyfuno’r cig â chynhwysion eraill
6. Coginio’r cig ar gyfer gofynion y saig
7. Sicrhau bod gan y saig y blas, lliw, ansawdd a maint cywir
8. Addurno a chyflwyno’r saig i fodloni’r gofynion
9. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i gael ei chadw a’i gweini
10. Storio unrhyw gig sydd wedi'i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o gig i fodloni gofynion y saig
2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cig
3. Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill
4. Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
5. Sut i gyfuno cig â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn ôl gofynion y saig
7. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pob math o gig gan ddefnyddio pob dull coginio a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
8. Sut i wirio ac addasu blas, ansawdd a lliw’r saig cig gymhleth
9. Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig cig gymhleth a sut i wirio bod y cig wedi’i goginio’n gywir
10. Sut i leihau i’r eithaf a chywiro diffygion cyffredin mewn seigiau cig cymhleth
11. Y dulliau gorffennu priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau cig cymhleth
12. Y tueddiadau a methodolegau cyfredol mewn perthynas â choginio a gorffennu seigiau cig cymhleth
13. Y tymereddau cywir i gadw a gweini seigiau cig cymhleth
14. Sut i storio seigiau cig cymhleth na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
15. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffennu seigiau cig cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cig
1.1 cig eidion
1.2 cig oen
1.3 porc
1.4 cig llo
Dulliau coginio
2.1 grilio (uwchben ac o dan y gwres)
2.2 ffrio’n ddwfn / ffrio’n fas / tro-ffrio
2.3 berwi
2.4 brwysio
2.5 stemio
2.6 stiwio
2.7 rhostio
2.8 rhostio mewn pot
2.9 sous vide
2.10 cyfuno dulliau coginio
Dulliau gorffennu
3.1 addurno
3.2 ychwanegu saws / sgleinio / dresin
3.3 cyflwyno
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd
Geiriau Allweddol
coginio, gorffennu, cig, cymhleth