Paratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
URN: PPL3PC6
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi cig ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a mathau o gig.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o gig mae ei angen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y cig yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi’r cig
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r cig
5. Paratoi’r cig i gynnal ansawdd a bodloni gofynion y saig
6. Storio unrhyw gig sydd wedi'i baratoi na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Prif nodweddion gwahanol fathau o gig
2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cig ffres
3. Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill
4. Gwerthoedd maethol pob math o gig
5. Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o gig i fodloni gofynion y saig
6. Darnau addas ar gyfer pob math o gig
7. Amcangyfrif o’r cynnyrch defnyddiol wrth baratoi cig a sut i ddefnyddio sgil-gynhyrchion
8. Sut i reoli dognau er mwyn lleihau gwastraff i’r eithaf
9. Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau cig cymhleth
10. Y tueddiadau cyfredol mewn perthynas â pharatoi seigiau cig cymhleth
11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
12. Sut i storio cig sydd wedi’i baratoi
13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cig
1.1 cig eidion
1.2 cig oen
1.3 porc
1.4 cig llo
2. Dulliau paratoi
2.1 tynnu esgyrn
2.2 trimio
2.3 rholio
2.4 tyneru
2.5 cefnddryllio
2.6 clymu
2.7 lardio / gorchuddio â chig moch
2.8 dogni yn ôl pwysau
2.9 dogni ar gyfer saig
2.10 tafellu
2.11 briwo
2.12 sesno / marinadu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL3FP3
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, cig, cymhleth