Coginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth

URN: PPL3PC5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth, er enghraifft:
• cranc parod
• wystrys mewn iâ
• cimwch thermidor
• soufflé pysgod cregyn

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o bysgod cregyn, gan gynnwys cramenogion a molysgiaid, a’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â’r seigiau pysgod cregyn cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o bysgod cregyn a faint sydd eu hangen ar gyfer y saig
  2. Gwirio’r pysgod cregyn i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y pysgod cregyn
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y pysgod cregyn
  5. Cyfuno’r pysgod cregyn â chynhwysion eraill
  6. Coginio’r pysgod cregyn i fodloni gofynion y saig
  7. Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  8. Garneisio, blasuso, ychwanegu saws a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  10. Storio unrhyw bysgod cregyn wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i ddewis y math cywir o bysgod cregyn, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod cregyn
  3. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r pysgod cregyn neu gynhwysion eraill
  4. Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
  5. Sut i gyfuno pysgod cregyn â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
  7. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pysgod cregyn yn ôl y dulliau a restrir a pham mae hyn yn bwysig
  8. Sut i addasu blas, tewychedd a lliw seigiau pysgod cregyn cymhleth
  9. Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig pysgod cregyn gymhleth a sut i wirio bod y pysgod cregyn wedi’u coginio’n gywir
  10. Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau pysgod cregyn cymhleth
  11. Y dulliau gorffen priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau pysgod cregyn cymhleth
  12. Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth
  13. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pysgod cregyn cymhleth
  14. Sut i storio seigiau pysgod cregyn cymhleth na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  15. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau pysgod cregyn cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Pysgod cregyn
15.1 cramenogion
15.2 molysgiaid
15.3 seffalopod

2. Dulliau coginio
2.1 berwi
2.2 stemio
2.3 sauté
2.4 grilio
2.5 pobi
2.6 ffrio (dwfn / bas)
2.7 stiwio
2.8 en papillote
2.9 cyfuno dulliau coginio

Dulliau gorffen
2.10 garneisio
2.11 dresin
2.12 gyda saws
2.13 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC5

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

coginio, gorffen, cymhleth, pysgod cregyn