Paratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth
URN: PPL3PC4
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi pysgod cregyn ffres ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau paratoi ac â chramenogion a molysgiaid.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o bysgod cregyn mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y pysgod cregyn yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir mae eu hagen i baratoi’r pysgod cregyn
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod cregyn
5. Paratoi’r pysgod cregyn i gynnal ansawdd a bodloni gofynion y saig
6. Storio unrhyw bysgod cregyn sydd wedi'u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Prif nodweddion gwahanol fathau o bysgod cregyn
2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod cregyn ffres
3. Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r pysgod cregyn neu gynhwysion eraill
4. Sut i ganfod pysgod cregyn byw
5. Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o bysgod cregyn i fodloni gofynion y saig
6. Dulliau paratoi addas ar gyfer pob math o bysgod cregyn
7. Amcangyfrif o’r cynnyrch defnyddiol wrth baratoi pysgod cregyn
8. Sut i reoli dognau er mwyn lleihau gwastraff i’r eithaf
9. Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau pysgod cregyn cymhleth
10. Y tueddiadau cyfredol mewn perthynas â pharatoi seigiau pysgod cregyn cymhleth
11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
12. Sut i storio pysgod cregyn sydd wedi’u paratoi
13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Pysgod cregyn
1.1 wystrys
1.2 crancod
1.3 corgimychiaid / berdys / shrimp
1.4 langoustines
1.5 cimychiaid
1.6 cimychiaid yr afonydd
1.7 sgampi / corgimychiaid Bae Dulyn
1.8 cregyn gleision
1.9 cregyn bylchog
1.10 sgwid
1.11 octopws
- Dulliau paratoi
2.1 glanhau
2.2 tynnu cregyn
2.3 golchi
2.4 marinadu
2.5 caenu
2.6 rhoi trwy gymysgydd
2.7 torri’n ddarnau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL3FP2
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, pysgod cregyn, cymhleth