Coginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth

URN: PPL3PC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth, er enghraifft:
• pysgodyn en croûte
• brandade
• roulade eog
• coulibiac
• mousseline
• bouillabaisse

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o bysgod, gan gynnwys pysgod egsotig a’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â seigiau pysgod cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.Dewis y math o bysgod a faint sydd eu hangen ar gyfer y saig
2. Gwirio’r pysgod i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y pysgod
4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y pysgod
5. Cyfuno’r pysgod â chynhwysion eraill
6. Coginio’r pysgod i fodloni gofynion y saig
7. Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
8. Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
9. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
10. Storio unrhyw bysgod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i ddewis y math cywir o bysgod, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod
  3. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill
  4. Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
  5. Sut i gyfuno pysgod â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
  7. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pysgod gan ddefnyddio pob dull coginio a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  8. Sut i wirio ac addasu blas, tewychedd a lliw seigiau pysgod cymhleth
  9. Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig pysgod gymhleth a sut i wirio bod y pysgod wedi’u coginio
  10. Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau pysgod cymhleth
  11. Y dulliau gorffen priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau pysgod cymhleth
  12. Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth
  13. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pysgod cymhleth
  14. Sut i storio seigiau pysgod cymhleth na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  15. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau pysgod cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Pysgod
15.1 pysgod gwyn – crwn
15.2 pysgod gwyn – lledod
15.3 olewog
15.4 egsotig

2. Dulliau coginio
2.1 ffrio (dwfn / bas)
2.2 grilio
2.3 en papillote
2.4 pobi
2.5 stemio
2.6 potsio
2.7 sous vide
2.8 confit
2.9 cochi
2.10 cyfuniad o ddulliau coginio

3. Dulliau gorffen
3.1 caenu â saws
3.2 dresin
3.3 garnais


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC3

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

coginio, gorffen, pysgod, cymhleth