Paratoi, coginio a gorffen pwdinau oer cymhleth

URN: PPL3PC24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio, prosesu a gorffen pwdinau oer cymhleth, er enghraifft:
• cacen gaws
• mousse
• meringue
• sorbet

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, prosesu, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â phwdinau oer cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen pwdinau oer cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen pwdinau oer cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y pwdin
  2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio / prosesu a gorffen y saig
  4. Defnyddio offer, cyllyll a chyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio / prosesu a gorffen y saig
  5. Paratoi a phrosesu / coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion
  6. Sicrhau bod gan y pwdin y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir
  7. Gorffen a chyflwyno’r pwdin i fodloni gofynion
  8. Sicrhau bod y pwdin ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
  9. Storio unrhyw bwdin na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o bwdinau oer cymhleth a’u nodweddion
  2. Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt yng nghynhwysion y saig
  4. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
  5. Sut i reoli dognau a lleihau gwastraff
  6. Y dulliau paratoi priodol ar gyfer y gwahanol bwdinau oer cymhleth
  7. Effeithiau amrywiol dymereddau a lleithder ar y cynhwysion a ddefnyddir
  8. Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
  9. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
  10. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffen pwdinau oer cymhleth
  11. Problemau cyffredin a all ddigwydd wrth baratoi pwdinau oer cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
  12. Pa ddulliau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â phob math o bwdin oer cymhleth
  13. Beth yw’r pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch terfynol
  14. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth goginio, paratoi a gorffen pwdinau oer cymhleth a sut i ddelio â’r rhain yn gywir
  15. Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â phwdinau oer cymhleth
  16. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a choginio pwdinau oer cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Pwdinau
1.1 pwdinau set, sylfaen wy
1.2 mousses / soufflés oer
1.3 sylfaen meringue
1.4 cacen gaws
1.5 nwyddau crwst
1.6 bavarois ffrwythau / hufen
1.7 sylfaen hufen iâ / sorbet

2. Dulliau paratoi
2.1 hufennu
2.2 awyru
2.3 cyfuno
2.4 hidlo / rhoi trwy liain
2.5 puree
2.6 plygu
2.7 ychwanegu lliwiau / blasau
2.8 hidlo

3. Dulliau coginio
3.1 potsio
3.2 pobi
3.3 berw
3.4 stemio

4. Dulliau prosesu
4.1 tynnu allan o fowldiau
4.2 rhewi
4.3 rhoi yn yr oergell
4.4 oeri

5. Dulliau gorffen
5.1 oeri
5.2 pentyrru
5.3 sgleinio
5.4 llenwi
5.5 torri’n ddognau
5.6 torri
5.7 peipio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC24

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, pwdinau, oer, cymhleth