Paratoi, coginio a gorffennu pwdinau poeth cymhleth

URN: PPL3PC23
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu pwdinau poeth cymhleth, er enghraifft:

•soufflés poeth

•pwdinau wedi’u seilio ar bast
•pwdinau wedi’u seilio ar ffrwythau
•pwdinau wedi’u seilio ar sbwng

Mae’r safon yn ymdrin â’r amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffennu sy’n gysylltiedig â phwdinau poeth cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu pwdinau poeth cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:

•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin

•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf

​Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Paratoi, coginio a gorffennu pwdinau poeth cymhleth



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Dewis y math a’r maint o gynhwysion mae eu hangen ar gyfer y pwdin
2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffennu’r saig
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffennu’r saig
5. Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni’r gofynion
6. Sicrhau bod gan y pwdin y lliw, ansawdd a gorffeniad cywir
7. Gorffennu a chyflwyno’r pwdin i fodloni’r gofynion
8. Sicrhau bod y pwdin ar y tymheredd cywir i gael ei gadw a’i weini
9. Storio unrhyw bwdin na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.   Gwahanol fathau o bwdinau poeth cymhleth a’u nodweddion
2.   Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o gynhwysion i fodloni gofynion y saig
3.   Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt yng nghynhwysion y saig
4.   Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r cynhwysion
5.   Sut i reoli dognau a lleihau gwastraff i’r eithaf
6.   Y dulliau paratoi priodol ar gyfer y gwahanol bwdinau poeth cymhleth
7.   Effeithiau gwahanol dymereddau a lleithder ar y cynhwysion a ddefnyddir
8.   Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu gofynnol
9.   Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu yn ôl gofynion y saig
10. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, cyllyll, cyfarpar a thechnegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffennu pwdinau poeth cymhleth
11. Problemau cyffredin a all godi wrth baratoi pwdinau poeth a sut i’w lleihau i’r eithaf a’u hunioni
12. Pa ddulliau paratoi, coginio a gorffennu sy’n gysylltiedig â phob math o bwdin poeth cymhleth
13. Beth yw’r pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch gorffenedig
14. Y mathau o broblemau a all godi wrth goginio pwdinau poeth a sut i ddelio â’r rhain yn gywir
15. Tueddiadau cyfredol mewn perthynas â phwdinau poeth cymhleth
16. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a choginio pwdinau poeth cymhleth


Cwmpas/ystod

1.   Pwdinau 
1.1 soufflés poeth
1.2 wedi’u seilio ar bast
1.3 wedi’u seilio ar ffrwythau
1.4 wedi’u seilio ar sbwng

  1.   Dulliau paratoi

2.1 hufennu
2.2 plygu
2.3 awyru
2.4 defnyddio mowldiau 
2.5 corffori braster
2.6 gwahanu / cyfuno lliwiau / blasau / cynhwysion

  •   Dulliau coginio

  • 3.1 stemio
    3.2 ffrio’n ddwfn
    3.3 bain-marie
    3.4 pobi
    3.5 coginio mewn ffwrn microdon

  •   Dulliau gorffennu

  • 4.1 gorffennu â gratin
    4.2 oeri
    4.3 peipio
    4.4 tynnu o fowld
    4.5 sgleinio
    4.6 dogni


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa


    Dolenni I NOS Eraill


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL3FPC12

    Galwedigaethau Perthnasol

    Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    paratoi, coginio, gorffennu, pwdinau, poeth, cymhleth