Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu dresins a sawsiau oer cymhleth, er enghraifft:
•saws tartar
•saws radish poeth
•sawsiau wedi’u hemwlsio wedi’u seilio ar wyau
•dresin wedi’i seilio ar olew
•sawsiau sy’n cael eu tewychu â ffrwythau / corbys / llysiau
•sawsiau sy’n cael eu tewychu â hufen
•sawsiau wedi’u seilio ar hufen sur / iogwrt
•coulis
Mae’r safon yn ymdrin â’r amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffennu sy’n gysylltiedig â dresins a sawsiau oer cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu dresins a sawsiau oer cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi, coginio a gorffennu dresins a sawsiau oer cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o gynhwysion mae eu hangen ar gyfer y dresin / saws
2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffennu’r dresin / saws
4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffennu’r dresin / saws
5. Paratoi a choginio’r dresin / saws i fodloni’r gofynion
6. Sicrhau bod gan y dresin / saws y blas, lliw, ansawdd a maint cywir
7. Gorffennu a chyflwyno’r dresin / saws i fodloni’r gofynion
8. Storio unrhyw ddresin / saws sydd wedi'i goginio / baratoi na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Gwahanol fathau o ddresins a sawsiau oer a’u nodweddion
2. Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o gynhwysion i fodloni gofynion y saig
3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion dresins / sawsiau
4. Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r cynhwysion
5. Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu yn ôl gofynion y saig
7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, cyfarpar a thechnegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffennu dresins / sawsiau
8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio dresins / sawsiau a pham mae’r rhain yn bwysig
9. Sut i wybod pryd mae gan ddresins / sawsiau y lliw, blas, ansawdd a maint cywir
10. Sut i addasu blas dresins / sawsiau
11. Sut i gyflwyno dresins / sawsiau wedi’u coginio
12. Y cyfwydydd ac addurniadau priodol ar gyfer gwahanol ddresins / sawsiau
13. Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â dresins/ sawsiau
14. Sut i storio dresins / sawsiau
15. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffennu dresins / sawsiau
Cwmpas/ystod
1. Dresins a sawsiau
1.1 sawsiau wedi’u hemwlsio wedi’u seilio ar wyau
1.2 dresin wedi’i seilio ar olew
1.3 sawsiau sy’n cael eu tewychu â ffrwythau / corbys / llysiau
1.4 sawsiau sy’n cael eu tewychu â hufen
1.5 sawsiau wedi’u seilio ar hufen sur / iogwrt
1.6 coulis
- Dulliau paratoi, coginio a gorffennu
2.1 pwyso a mesur
2.2 berwi
2.3 mudferwi
2.4 lleihau
2.5 torri’n ddarnau
2.6 chwisgio
2.7 blansio
2.8 gogrwn / troi
2.9 rhoi trwy hylifydd / cymysgydd
2.10 emwlsio
2.11 sgimio
2.12 cyflwyno
2.13 ychwanegu cyfwyd
2.14 addurno
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd
Geiriau Allweddol
paratoi, coginio, gorffennu, dresins, sawsiau, oer