Paratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth

URN: PPL3PC2
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi pysgod ffres, heb eu paratoi ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’r dulliau paratoi’n cynnwys ffiledu’n gyfan yn ogystal â darnau gwahanol o bysgod. Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o fathau o bysgod gan gynnwys rhai egsotig.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:

•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin

•Dilyn a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ym maes lletygarwch
•Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Paratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Dewis y math a’r maint o bysgod mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y pysgod yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi’r pysgod
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod
5. Paratoi’r pysgod i gynnal ansawdd a bodloni gofynion y saig
6. Storio unrhyw bysgod sydd wedi’u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.   Prif nodweddion gwahanol fathau o bysgod
2.   Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod ffres
3.   Beth ddylech chi ei wneud os oes problemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill
4.   Gwerthoedd maethol pob math o bysgod
5.   Sut i ddewis y math, ansawdd a maint cywir o bysgod i fodloni gofynion y saig
6.   Darnau addas ar gyfer pob math o bysgod 
7.   Amcangyfrif o’r cynnyrch defnyddiol wrth baratoi pysgod
8.   Sut i reoli dognau er mwyn lleihau gwastraff i’r eithaf
9.   Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau pysgod cymhleth
10. Y tueddiadau cyfredol mewn perthynas â pharatoi seigiau pysgod cymhleth
11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
12. Sut i storio pysgod sydd wedi’u paratoi
13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth


Cwmpas/ystod

1.    Pysgod
1.1  pysgod gwyn - crwn 
1.2  pysgod gwyn - fflat 
1.3  pysgod olewog
1.4  pysgod egsotig

  1.    Dulliau paratoi
2.1  diberfeddu 
2.2  ffiledu
2.3  torri 
• darne 
• goujons 
• plait
• paupiette 
• suprême  
• tronçon 
2.4  trimio 
2.5  tynnu croen
2.6  marinadu 
2.7  caenu 
2.8  topin (er enghraifft, crwst perlysiau) 
2.9   gorchuddio (er enghraifft, ên croûte)
2.10 dogni


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3FP1

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Ben-cogydd/Uwch Gogydd, Dirprwy Ben-cogydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

paratoi, pysgod, cymhleth