Paratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio/pobi a gorffen cynhyrchion para a thoes cymhleth, er enghraifft
• bara brith
• brioche
• croissants / teisennau crwst
• bagelau
• bara rhyg (pumpernickel)
• naan peshwari
• focaccia / ciabatta
• surdoes
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a phobi sy’n gysylltiedig â chynhyrchion bara a thoes cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y cynhyrchion
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y cynhyrchion
- Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y cynnyrch bara a thoes y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir
- Cyflwyno’r cynnyrch bara a thoes i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y cynnyrch bara a thoes ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gynnyrch bara a thoes wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o gynhyrchion bara a thoes cymhleth a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi a choginio yn unol â gofynion y cynnyrch
- Y pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â chynhyrchion toes wedi’i eplesu sydd wedi’u paratoi
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion
- Effeithiau amrywiol dymereddau a lleithder ar y cynhwysion a ddefnyddir
- Y gofynion storio/dal a’r amodau delfrydol ar gyfer cynhyrchion toes wedi’i eplesu, a pha ragofalon y dylid eu cymryd wrth storio cynhyrchion toes
- Camgymeriadau cyffredin mewn cynhyrchion bara a thoes cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Y dulliau prosesu sy’n briodol i bob math o gynnyrch toes wedi’i eplesu
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chynhyrchion bara a thoes cymhleth
- Y pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â chynhyrchion toes cymhleth wedi’u gorffen
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara a thoes
14.1 toes wedi’i gyfoethogi
14.2 toes haenedig (wedi’i laminadu)
14.3 toes bara
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 pwyso / mesur
2.2 hidlo
2.3 cymysgu / tylino
2.4 codi
2.5 bwrw’n ôl
2.6 siapio
2.7 laminadu
2.8 plygu
2.9 pobi
2.10 ffrio