Paratoi, coginio a gorffen cawl cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cawl cymhleth, er enghraifft:
• consommé
• bisque
• cawl/potes
• velouté
• cawl oer
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â chawl cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cawl cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cawl cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cawl
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y cawl
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y cawl
- Cyfuno’r cynhwysion yn barod i’w coginio
- Paratoi a choginio’r cawl i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y cawl y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
- Gorffen a chyflwyno’r cawl i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y cawl ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gawl wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o gawl cymhleth a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion cawl
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffen cawl cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cawl cymhleth a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Camgymeriadau cyffredin mewn cawl cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Sut i adnabod pan fydd gan gawl y lliw, y blas, y tewychedd a’r gorffeniad cywir, a bod y maint yn gywir
- Sut i addasu blas cawl cymhleth
- Sut i gydbwyso blas, ansawdd, lliw, tewychedd a safon y cawl
- Y cyfwydydd a’r garnisiau priodol ar gyfer amryw gawl cymhleth
- Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chawl cymhleth
- Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â chawl cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini cawl
- Sut i storio cawl wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cawl cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
18.1 pwyso / mesur
18.2 torri
18.3 mudferwi
18.4 gloywi
18.5 berwi
18.6 chwisgo
18.7 rhoi trwy liain/hidlo
18.8 sgimio
18.9 oeri
18.10 tewychiad (liaison)
18.11 cyfwyd / garnais
2. Cawl
2.1 consommé
2.2 bisque
2.3 cawl/potes
2.4 velouté
2.5 cawl hufennog cymhleth
2.6 cawl oer