Bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri. Mae’r safon yn ymdrin â rhannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-oeri, selio a labelu bwyd wedi’i chwyth-oeri yn gywir, a monitro a chofnodi ei dymheredd. Hefyd, mae’r safon yn delio â storio’n gywir fwydydd wedi’u coginio a’u hoeri sydd wedi’u pecynnu, gweithdrefnau cylchdroi stoc a chynnal cofnodion cywir.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i brosesu bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod y bwyd yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle o ran ansawdd, faint o fwyd sydd a’r gofynion coginio
- Delio’n gywir ag unrhyw fwyd nad yw’n bodloni gofynion
- Rhannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i orchuddio yn gywir
- Chwyth-oeri bwyd, ei selio a’i labelu yn gywir
- Monitro a chofnodi tymereddau bwyd ac ardaloedd storio yn gywir, yn unol â gofynion diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Cludo cynwysyddion i’r ardaloedd storio priodol yn ddiogel ac yn hylan
- Storio eitemau wedi’u coginio a’u hoeri ar y tymheredd a’r amodau cywir
- Dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc yn gywir a defnyddio stoc yn ôl trefn dyddiad
- Cynnal cofnodion cywir o eitemau bwyd sy’n cael eu derbyn, eu storio a’u dosbarthu
- Trin eitemau bwyd yn gywir fel na fydd difrod iddynt
- Diogelu ardaloedd storio rhag mynediad anawdurdodedig
- Rhoi gwybod i’r person cywir yn brydlon am unrhyw broblemau a nodwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth rhannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-oeri
- Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth gynhyrchu bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri
- Pam mae’n rhaid selio cynwysyddion bwyd a’u labelu’n gywir cyn eu storio
- Pam mae’n rhaid rheoli dognau wrth gynhyrchu bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt wrth rannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-oeri
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth rannu bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri yn ddognau, eu pecynnu, eu chwyth-oeri a’u storio
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth storio bwydydd wedi’u coginio a’u hoeri
- Pam mae’n bwysig monitro a chofnodi tymereddau bwyd a thymereddau storio yn rheolaidd
- Pam mae’n rhaid dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc
- Pam dylai ardaloedd storio gael eu diogelu rhag mynediad anawdurdodedig
Cwmpas/ystod
1. Bwydydd
10.1 seigiau cig
10.2 seigiau dofednod
10.3 golwython / adar cyfan
10.4 llysiau / ffrwythau
10.5 seigiau llysiau
10.6 seigiau pysgod
10.7 sawsiau / cawl
10.8 seigiau wyau
10.9 seigiau pasta
10.10 pwdinau
2. Problemau gyda
2.1 chyfarpar
2.2 bwyd
2.3 pecynnu