Cynhyrchu seigiau llysiau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu, coginio / adfywio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol a sgiliau gorffen a chyflwyno. Hefyd, mae’n delio â choginio / adfywio a gorffen llysiau ar ffurf syml, e.e. moron wedi’u berwi neu eu stemio, tatws rhost.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau llysiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau llysiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod y llysiau a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’r gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r llysiau a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y saig llysiau orffenedig yn gywir
- Gwirio bod y saig llysiau yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig llysiau i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw seigiau llysiau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau’r gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol
- Sut i wirio bod y llysiau a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, eu bod yn addas i’w defnyddio a bod eu nifer a’u hansawdd gofynnol yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig a pha lysiau sy’n addas ar gyfer pob dull coginio / adfywio
- Y prif resymau dros flansio llysiau
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol
- Sut i gyflwyno seigiau llysiau sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion llysiau sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion llysiau sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
1.1 gwreiddlysiau a chloron
1.2 bylbiau
1.3 fflurbennau
1.4 ffyngau
1.5 hadau a chodennau
1.6 dail
1.7 coesynnau
1.8 ffrwyth-lysiau
2. Fformat
2.1 llysiau cyfan ffres
2.2 rhewedig
2.3 wedi’u paratoi ymlaen llaw
3. Dulliau coginio
3.1 blansio
3.2 berwi
3.3 rhostio
3.4 pobi
3.5 grilio
3.6 ffrio (dwfn / bas / tro ffrio)
3.7 stemio
3.8 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
3.9 cyfuno dulliau coginio
4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 ychwanegu cyfwyd
4.3 cyflwyno