Cynhyrchu seigiau dofednod sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio / adfywio ac yn gorffen seigiau dofednod sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau dofednod sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau dofednod sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod y dofednod a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r dofednod a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y saig dofednod orffenedig yn gywir
- Gwirio bod y saig dofednod yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig dofednod i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw seigiau dofednod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau’r gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau dofednod sylfaenol
- Sut i wirio bod y dofednod a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, eu bod yn addas i’w defnyddio a bod eu nifer a’u hansawdd gofynnol yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r dofednod neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau dofednod sylfaenol
- Sut i gyflwyno seigiau dofednod sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion dofednod sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion dofednod sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Dofednod
1.1 dognau dofednod
1.2 adar cyfan
1.3 cynhyrchion dofednod wedi’u hoeri
1.4 cynhyrchion dofednod wedi’u rhewi
2. Dulliau coginio
2.1 grilio
2.2 ar gridyll
2.3 rhostio
2.4 potsio
2.5 ffrio (dwfn / bas / sauté / tro ffrio)
2.6 stemio
2.7 brwysio
2.8 pobi
2.9 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 ychwanegu cyfwyd
3.3 cyflwyno