Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin ag arlwywyr yn cydweithio â staff y tîm gofal i sicrhau y caiff cleientiaid yn y sector gofal a chleifion mewn ysbytai faeth a hylifau digonol trwy ddarparu prydau bwyd.
Mae’r safon yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn fod â gwybodaeth drylwyr am ofynion maethol y boblogaeth gyffredinol a sut mae bwyd yn diwallu’r gofynion hyn.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i gysylltu â’r tîm gofal i sicrhau y caiff anghenion maethol unigolion eu diwallu. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan.
Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cysylltu â’r tîm gofal i sicrhau y caiff anghenion maethol unigolion eu diwallu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Meithrin perthnasoedd gyda gofalwyr sy’n cydnabod eu rôl a’u harbenigedd
2. Cydweithio â’r tîm gofal i ganfod gofynion maethol penodol unigolion a grwpiau o gwsmeriaid
3. Deall, defnyddio ac ymchwilio i unrhyw wybodaeth gyda gofalwyr, gan gael eglurder ar bwyntiau penodol
4. Cydweithio â phobl briodol i gasglu gwybodaeth am adnoddau, ac opsiynau sydd ar gael i ddiwallu’r anghenion maethol sy’n cael eu nodi
5. Cydweithio â gofalwyr i ganfod pa gymorth ychwanegol mae ei angen i sicrhau y caiff y gofynion o ran maeth a hylif eu bodloni gan gynnwys ansawdd ac amseriad y bwyd a’r ffordd y caiff ei weini
6. Dilyn gweithdrefnau’r sefydliad i sicrhau y caiff gofynion cwsmeriaid eu cofnodi a’u bod ar gael i bobl awdurdodedig
7. Ceisio cymorth ychwanegol pan fo’r anghenion y tu allan i’ch cyfrifoldeb ac arbenigedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Y gweithwyr gofal allweddol sy’n gweithredu yn y sefydliad a’r angen i gysylltu â nhw
2. Y gofynion maethol sydd gan gwsmeriaid
3. Yr opsiynau mwyaf priodol sydd ar gael o ran prydau bwyd i fodloni’r gofynion maethol
4. Rôl y ‘cynllun gofal’
5. Arwyddocâd adegau prydau bwyd rheolaidd a gwahaniaethol
6. Sut mae sgrinio maethol yn cael ei gyflawni yn y sefydliad
7. Y wybodaeth y gellir ei dehongli a’i defnyddio yn dilyn sgrinio maethol
8. Pa faint o faethynnau mae eu hangen fel arfer i gynnal cydbwysedd dietegol da
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Geiriau Allweddol
cysylltu, tîm, gofal, anghenion, maethol, unigolion