Paratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
URN: PPL2PRD18
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn gweithredu a chynnal a chadw cyfarpar coginio sy’n benodol i’ch gweithle. Mae hyn yn cynnwys cyfarpar paratoi, coginio a storio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dilyn gweithdrefnau gweithredu’r gwneuthurwr a’ch gweithle wrth ddefnyddio cyfarpar arbenigol
2. Gwirio’r holl gyfarpar i sicrhau eu bod yn lân, heb eu difrodi, yn barod ac yn ddiogel i’w gweithredu
3. Monitro’r cyfarpar i sicrhau eu bod yn perfformio’n gywir
4. Dilyn y gweithdrefnau cywir i ddiffodd y cyfarpar, eu datod a’u glanhau’n effeithiol
5. Glanhau’r cyfarpar a’u cydrannau gan ddefnyddio’r dulliau, cyfryngau glanhau a chyfarpar diogelu personol cywir
6. Ailosod y cyfarpar yn unol â’r safonau gofynnol o ran iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd yn barod i barhau i’w defnyddio
7. Rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu namau y dewch o hyd iddyn nhw i’r person perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
2. Y mathau o gyfarpar arbenigol sy’n cael eu defnyddio yn eich gweithle
3. Ble i ddod o hyd i’r gweithdrefnau gweithredu perthnasol i’r cyfarpar yn eich gweithle
4. Pam y mae’n bwysig dilyn y gofynion diogelwch wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
5. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau
6. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Mathau o gyfarpar
1.1 ar gyfer paratoi
1.2 ar gyfer coginio
1.3 ar gyfer glanhau
1.4 oeri
1.5 echdynnu
- Namau y rhoddir gwybod amdanyn nhw
2.1 namau trydanol
2.2 namau mecanyddol
2.3 camgymeriad dynol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2PR21
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
paratoi, gweithredu, glanhau, cyfarpar, bwyd, coginio, arbenigol