Cynhyrchu cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd

URN: PPL2PRD15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd, ynghyd â storio’n gywir yr eitemau hynny na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith. Hefyd, mae’n delio â phobi cynhyrchion a’u ffrio’n ddwfn, fel bisgedi a sgons. Yn ogystal, mae’n disgrifio pwysigrwydd cyflwyno cynhyrchion wedi’u coginio / hadfywio yn unol â safonau sefydliadol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi nifer y dognau y mae eu hangen i’w gweini
  2. Sicrhau bod y cynhwysion o’r math gofynnol ac o’r nifer ac ansawdd gofynnol
  3. Paratoi cynhwysion gan ddefnyddio’r dulliau paratoi sylfaenol priodol i fodloni gofynion ansawdd a gofynion sefydliadol
  4. Labelu unrhyw gynhwysion wedi’u paratoi yn glir ac yn gywir, a’u storio yn unol â gofynion cyfreithiol
  5. Sicrhau bod y cynhyrchion blawd, toes a’r cynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd o’r math gofynnol ac o’r nifer ac ansawdd gofynnol
  6. Cyfuno’r cynhyrchion blawd, toes a’r cynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd gyda chynhwysion eraill
  7. Coginio / adfywio cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd gan ddefnyddio’r dulliau coginio / adfywio sylfaenol priodol i fodloni gofynion ansawdd a gofynion sefydliadol
  8. Defnyddio dulliau gorffen sylfaenol i fodloni gofynion ansawdd a gofynion sefydliadol
  9. Labelu unrhyw gynhwysion a baratowyd yn glir ac yn gywir, a’u storio yn unol â gofynion cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae’n hanfodol y dylai poptai fod ar y tymheredd cywir cyn bod y pobi’n dechrau
  2. Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth baratoi, coginio / adfywio a storio cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion sylfaenol wedi’u pobi ar hambwrdd
  3. Pam dylai cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion sylfaenol wedi’u pobi ar hambwrdd sydd wedi’u paratoi gael eu storio ar y tymheredd diogel cywir cyn eu coginio
  4. Pwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion blawd, toes a chynhyrchion sylfaenol wedi’u pobi ar hambwrdd
  5. Y dulliau paratoi a choginio / adfywio ar gyfer cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion sylfaenol wedi’u pobi ar hambwrdd
  6. Sut i nodi pan fydd gwahanol gynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd wedi cael eu coginio / hadfywio yn ôl gofynion y saig
  7. Sut i gyflwyno cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd
  8. Pa broblemau all ddigwydd wrth baratoi a choginio / adfywio cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd ac i bwy fyddech chi’n rhoi gwybod am y broblem
  9. Sut i sicrhau bod arogl, ansawdd, tymheredd a thewychedd y cynhyrchion yn gywir
  10. Pam mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau’r saig a defnyddio’r cyfarpar cywir wrth rannu’n ddognau
  11. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion sylfaenol wedi’u pobi ar hambwrdd

Cwmpas/ystod

1. Cynhwysion
1.1 crwst wedi’i baratoi ymlaen llaw
1.2 cymysgeddau cacennau/teisennau sbwnj
1.3 cymysgedd sgons
1.4 cymysgedd toes
1.5 cymysgedd bisgedi
1.6 cymysgedd cynnyrch wedi’i bobi ar hambwrdd

2. Dulliau paratoi sylfaenol
2.1 cymysgu
2.2 tylino
2.3 iro
2.4 hufennu/curo
2.5 leinio
2.6 toddi
2.7 sgleinio
2.8 rhannu’n ddognau
2.9 rholio
2.10 siapio
2.11 torri

3. Cynhyrchion blawd, toes a chynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd
3.1 cynhyrchion crwst
3.2 cacennau/teisennau sbwnj
3.3 sgons
3.4 cynhyrchion toes
3.5 bisgedi
3.6 cynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd

4. Dulliau coginio sylfaenol
4.1 pobi
4.2 ffrio dwfn
4.3 adfywio (e.e. mewn popty microdon)

5. Dulliau gorffen sylfaenol
5.1 ysgeintio/gwasgaru
5.2 llenwi
5.3 peipio
5.4 taenu / llyfnu
5.5 sgleinio
5.6 trimio
5.7 rhannu’n ddognau


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PRD15

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

blawd, toes, pobi, hambwrdd