Cynhyrchu cynhyrchion crwst sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r cynnyrch yn ddiogel, dulliau coginio priodol, a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion crwst sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cynhyrchion crwst sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y cynnyrch crwst gorffenedig yn gywir
- Gwirio bod y cynnyrch crwst yn cael ei goginio a’i ddal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y cynnyrch crwst i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw gynhyrchion crwst wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Pwysigrwydd dilyn rysáit wrth wneud cynhyrchion crwst
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen perthnasol ar gyfer pob cynnyrch crwst
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol
- Sut i gyflwyno cynhyrchion crwst sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion crwst sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Crwst
1.1 byr
1.2 melys
1.3 siwed
1.4 choux
1.5 pwff
1.6 di-glwten
1.7 rhewedig
2 Dulliau paratoi
2.1 pwyso/mesur
2.2 hidlo
2.3 rhwbio i mewn
2.4 hufennu
2.5 gorffwys
2.6 peipio
2.7 rholio
2.8 laminadu/plygu
2.9 torri/siapio/trimio
2.10 leinio
3. Dulliau coginio
3.1 pobi
3.2 stemio
3.3 cyfuno dulliau coginio
4. Dulliau gorffen
4.1 eisio/ysgeintio
4.2 brwsio
4.3 garneisio
4.4 cyflwyno