Cynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol
URN: PPL2PRD1
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn cynhyrchu, coginio a gorffennu seigiau pysgod sylfaenol. Mae’r safon yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ffurfiau ar bysgod a allai fod ar gael, dulliau coginio a chyflwyno’r seigiau’n gywir.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i gynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Sicrhau bod y man paratoi’n lân, heb ei ddifrodi ac yn barod i’w ddefnyddio yn unol â safon eich gweithle
2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol at y dasg, heb eu difrodi, lle dylent fod ac wedi’u cynnau’n barod i’w defnyddio
3. Gwirio bod y pysgod a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, gofynion diogelwch bwyd a gofynion eich gweithle
4. Paratoi a choginio’r pysgod a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
5. Sicrhau bod gan y saig orffenedig y lliw, ansawdd a blas cywir
6. Gwirio bod y saig pysgod wedi’i choginio ac yn cael ei chadw ar y tymheredd cywir
7. Cyflwyno a gorffennu’r saig pysgod i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
8. Storio unrhyw seigiau pysgod sydd wedi'u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau’r gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio a gorffennu seigiau pysgod sylfaenol
2. Sut i wirio bod pysgod a chynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, yn addas i’w defnyddio ac o’r ansawdd a maint cywir y mae eu hangen
3. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill
4. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu perthnasol ar gyfer pob saig
5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r dull coginio mwyaf priodol ar gyfer pob math o bysgod
6. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffennu seigiau pysgod sylfaenol
7. Sut i gyflwyno seigiau pysgod sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni disgwyliadau uchel eich cwsmeriaid a safonau’ch gweithle
8. Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion pysgod sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
9. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion pysgod sylfaenol a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Pysgod
1.1 darnau pysgod
1.2 pysgod cyfan
1.3 cynhyrchion pysgod wedi’u prosesu a’u hoeri (e.e. cacennau pysgod, darnau pysgod â chaen
1.4 cynhyrchion pysgod wedi’u prosesu a’u rhewi (e.e. cacennau pysgod, darnau pysgod â chaen
Dulliau coginio
2.1 ffrio’n ddwfn
2.2 ffrio’n fas
2.3 grilio
2.4 potsio
2.5 stemio
2.6 pobi
2.7 coginio mewn ffwrn microdon
Dulliau gorffennu
3.1 addurno
3.2 ychwanegu cyfwyd
3.3 cyflwyno
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2PR1
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
seigiau, pysgod, sylfaenol