Coginio a gorffen seigiau pysgod cregyn sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau pysgod cregyn sylfaenol, er enghraifft:
• cigwain (brochette) corgimychiaid
• moules mariniere
• cawl cregyn (clam chowder)
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o bysgod cregyn, gan gynnwys corgimychiaid, cregyn gleision a chregyn bylchog ymhlith eraill, ynghyd ag amrywiol ddulliau coginio a sut byddech chi’n gorffen saig pysgod cregyn.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau pysgod cregyn sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau pysgod cregyn sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y pysgod cregyn yn bodloni gofynion y saig
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y seigiau pysgod cregyn sylfaenol.
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y pysgod cregyn
- Cyfuno’r pysgod cregyn â chynhwysion eraill
- Coginio’r pysgod cregyn i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw bysgod cregyn wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i wirio bod y pysgod cregyn yn bodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o bysgod cregyn
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod cregyn neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau coginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o bysgod cregyn
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pysgod cregyn a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i gyflawni’r dulliau gorffen gofynnol
- Sut i wirio ac addasu saig pysgod cregyn i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pysgod cregyn
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau pysgod cregyn na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen pysgod cregyn
Cwmpas/ystod
1. Pysgod cregyn
1.1 cramenogion
1.2 molysgiaid
2. Dulliau coginio
2.1 berwi
2.2 ffrio (dwfn/bas)
2.3 grilio
2.4 stemio
2.5 potsio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno