Coginio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol

URN: PPL2PC4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol, er enghraifft:
• stêcs eog wedi’u grilio
• draenogyn môr gyda ffenigl, lemwn a chaprau
• pysgod (ffres) mewn cytew
• brithyll wedi’i ffrio
• cacennau pysgod
• pei pysgod

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o bysgod, gan gynnwys pysgod crwn, lledod a physgod olewog ac amrywiol ddulliau coginio. Yna, mae’r safon yn mynd ymlaen i ddisgrifio sut rydych chi’n gorffen saig pysgod trwy ddulliau gwahanol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod y pysgod yn bodloni gofynion y saig
  2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y pysgod
  3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y pysgod
  4. Cyfuno’r pysgod â chynhwysion eraill
  5. Coginio’r pysgod i fodloni gofynion y saig
  6. Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  7. Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
  8. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  9. Storio unrhyw bysgod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i wirio bod y pysgod yn bodloni gofynion y saig
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o bysgod
  3. Pam ddylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  4. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau coginio
  5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir wrth goginio a gorffen pob math o bysgodyn
  6. Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o bysgodyn
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pysgod a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i gyflawni’r dulliau gorffen
  10. Sut i wirio ac addasu saig pysgod i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  11. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pysgod
  12. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau pysgod na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  13. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen pysgod

Cwmpas/ystod

1. Pysgod
13.1 pysgod gwyn – crwn
13.2 pysgod gwyn – lledod
13.3 pysgod olewog

2. Dulliau coginio
2.1 ffrio (dwfn / bas)
2.2 grilio
2.3 potsio
2.4 pobi
2.5 stemio
2.6 stiwio

3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC4

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

coginio, gorffen, seigiau, pysgod, sylfaenol