Cyfrannu at arferion cynaliadwy mewn ceginau

URN: PPL2PC34
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â gweithio mewn ffordd gynaliadwy mewn cegin fasnachol.

Bydd angen ichi weithio’n effeithiol i sicrhau y defnyddir cyfleustodau ac adnoddau eraill yn effeithlon, ac i leihau gwastraff i’r eithaf. Hefyd, mae angen ichi asesu’ch perfformiad eich hun a chanfod ac achub ar gyfleoedd i wella effeithlonrwydd.​

Argymhellir y safon hon ar gyfer cogyddion llinell, cynhyrchu a commis a phen-cogyddion eraill sy’n gweithio mewn ceginau masnachol.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Cyfrannu at arferion cynaliadwy mewn ceginau



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Gweithio’n effeithiol yn ôl trefniadau gweithredu safonol
2. Asesu’ch perfformiad eich hun er mwyn canfod gwelliannau posibl o ran effeithlonrwydd
3. Rhoi gwybod yn gywir am unrhyw gyfleoedd i wella effeithlonrwydd cyfleustodau ac adnoddau eraill
4. Rhoi gwybod yn brydlon ac yn gywir am amrywiadau yn y defnydd o gyfleustodau ac adnoddau ac unrhyw gamau rydych wedi’u cymryd i ymateb i hynny
5. Cymryd camau i wella effeithlonrwydd y defnydd o gyfleustodau ac adnoddau eraill
6. Gweithio’n effeithlon yn unol â manylebau bwydlenni er mwyn osgoi gwastraff a’i leihau i’r eithaf


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. Y derminoleg a ddefnyddir mewn perthynas â chynaliadwyedd mewn ceginau masnachol 
2. Pam mae ceginau masnachol yn defnyddio bwyd o ffynonellau cynaliadwy
3. Pa gyfleustodau ac adnoddau sy’n cael eu defnyddio mewn ceginau masnachol a sut y cânt eu defnyddio
4. Pam mae angen i geginau masnachol leihau’r defnydd o gyfleustodau
5. Sut y gallai ceginau masnachol wella’r defnydd o gyfleustodau 
6. Pa fentrau gan y llywodraeth all helpu i wella’r defnydd o gyfleustodau


Cwmpas/ystod

1.   Cyfleustodau ac adnoddau eraill
1.1 nwy
1.2 trydan
1.3 dŵr
1.4 bwyd
1.5 nwyddau traul
1.6 manion bethau e.e. ffoil, haenen lynu


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC34

Galwedigaethau Perthnasol

Lletygarwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynaliadwyedd, cynaliadwy, bwydlenni, coginio, pen-cogydd