Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi bwyd ar gyfer a defnyddio ffwrn tandoor (ffwrn clai).
Gallai’r seigiau gynnwys:
•cyw iâr tandoori
•cebabs
•pysgod tandoori
•bara naan
Mae’r safon yn ymdrin â dulliau paratoi yn ogystal â’r technegau coginio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio tandoor (ffwrn clai). Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio ffwrn tandoor (ffwrn clai)
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o gynhwysion mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi a choginio gan ddefnyddio tandoor
4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio tandoor
5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
6. Paratoi bwyd i’w goginio i fodloni gofynion y saig
7. Paratoi’r tandoor i sicrhau ei fod yn coginio ar y tymheredd gofynnol
8. Rhoi’r bwyd yn y ffwrn tandoor yn y lle priodol
9. Coginio’r bwyd i fodloni gofynion y saig
10. Addurno a chyflwyno’r bwyd yn ôl gofynion y saig
11. Storio unrhyw eitemau bwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Gwahanol fathau o fwyd y gellir eu coginio mewn tandoor
2. Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y saig
3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion seigiau tandoor
4. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r ffwrn neu’r cynhwysion
5. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi a choginio gan ddefnyddio tandoor
6. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffennu seigiau tandoor
7. Sut i baratoi’r tandoor ar gyfer coginio
8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio mewn tandoor
9. Sut i leihau i’r eithaf a chywiro diffygion cyffredin wrth goginio mewn tandoor
10. Sut i gyflawni’r dulliau gorffennu
11. Sut i wirio ac addasu saig tandoor er mwyn sicrhau bod ganddi’r lliw, blas, ansawdd a maint cywir
12. Y tymereddau cywir i gadw a gweini seigiau tandoor
13. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir i storio seigiau tandoor na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
14. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffennu seigiau tandoor
Cwmpas/ystod
1. Bwyd i’w goginio
1.1 darnau cyfan o gig a physgod
1.2 cebabs
2.1 marinadu a chaenu
2.2 ffurfio ar sgiwerau
2.3 siapio
Dulliau gorffennu
3.1 addurno
3.2 cyflwyno
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Geiriau Allweddol
paratoi, coginio, tandoor