Paratoi pysgod ar gyfer seigiau sylfaenol

URN: PPL2PC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi pysgod ffres ar gyfer seigiau
sylfaenol.

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a gwahanol fathau o bysgod, gan gynnwys pysgod crwn, lledod a physgod olewog.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi pysgod ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi pysgod ar gyfer seigiau sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o bysgod a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y pysgod yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r pysgod
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod
  5. Paratoi’r pysgod i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw bysgod a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o bysgod a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
  2. Sut i wirio bod y pysgod yn bodloni gofynion
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod ffres
  4. Pa wahanol bysgod ffres sydd ar gael yn ystod pob tymor
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi
  7. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r pysgod
  9. Y rhesymau dros gaenu a marinadu pysgod
  10. Ansawdd gwahanol fathau o bysgod a beth mae hyn yn ei olygu o ran trin y pysgod wrth eu paratoi
  11. Sut i storio pysgod a baratowyd yn gywir
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod

Cwmpas/ystod

1. Pysgod
1.1 pysgod gwyn – crwn
1.2 pysgod gwyn – lledod
1.3 pysgod olewog

2. Dulliau paratoi
2.1 ffiledu
• tynnu esgyrn pin
• tynnu esgyrn asennau
• tynnu’r asgwrn cefn
2.2 torri
• darne
• goujon
• supreme
• tronçon
• délice
• paupiette
2.3 trimio
2.4 tynnu’r croen
2.5 caenu
2.6 marinadu
2.7 stwffio / llenwi


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC3

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

paratoi, pysgod, seigiau, sylfaenol