Paratoi, coginio a gorffen pwdinau sylfaenol poeth ac oer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen pwdinau sylfaenol poeth ac oer, er enghraifft:
• hufen iâ
• mousse siocled
• pwdin taffi
• crème caramel
• tarten afal
• cacen gaws lemwn
• treiffl
Mae’r safon yn ymwneud â’r dulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â phwdinau yna mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio sut i orffen pwdin poeth neu oer.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen pwdinau sylfaenol poeth ac oer; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen pwdinau sylfaenol poeth ac oer
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y pwdin
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y pwdin
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y pwdin
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y pwdin
- Sicrhau bod gan y pwdin y blas, y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
- Gorffen a chyflwyno’r pwdin i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y pwdin ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw bwdinau a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o bwdinau poeth ac oer a’u nodweddion
- Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pwdinau poeth ac oer
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y cynnyrch
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen pwdinau
- Yr amserau a’r tymereddau cywir ar gyfer coginio pwdinau a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu pwdin i sicrhau bod ganddo’r lliw, y blas yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
- Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a gweini pwdinau
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio pwdinau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen pwdinau
Cwmpas/ystod
1. Pwdinau
12.1 hufen iâ
12.2 mousse
12.3 wy
12.4 cytew
12.5 sbwnj
12.6 ffrwythau
12.7 crwst
12.8 pwdinau set
2. Dulliau paratoi
2.1 sleisio
2.2 hufennu
2.3 plygu
2.4 mowldio
2.5 cymysgu
2.6 awyru
2.7 ychwanegu blasau / lliwiau
2.8 gwneud purée
2.9 cyfuno
2.10 rhannu’n ddognau
2.11 oeri
3. Dulliau coginio
3.1 berwi / potsio / bain-marie
3.2 stiwio
3.3 pobi
3.4 cyfuniad o ddulliau coginio
3.5 stemio
3.6 ffrio
4. Dulliau gorffen
4.1 llenwi
4.2 sgleinio
4.3 peipio
4.4 garneisio