Paratoi, coginio a gorffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau sylfaenol

URN: PPL2PC25
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu cacennau, sbyngau a sgonau sylfaenol, er enghraifft:

•sbwng Victoria

•sgonau ffrwythau
•cacen ffrwythau
•teisennau brau

​Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau paratoi ac yn symud ymlaen i ddulliau coginio ac wedyn sut i orffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau sylfaenol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau sylfaenol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:

•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo

•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Paratoi, coginio a gorffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau sylfaenol



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Dewis y math a’r maint o gynhwysion mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2.  Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3.  Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu’r gacen, sbwng, bisgeden neu sgon
4.  Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffennu’r gacen, sbwng, bisgeden neu sgon
5.  Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y gacen, sbwng, bisgeden neu sgon
6.  Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y gacen, sbwng, bisgeden neu sgon
7.  Sicrhau bod gan y gacen, sbwng, bisgeden neu sgon y blas, lliw, ansawdd, maint a gorffeniad cywir
8.  Gorffennu a chyflwyno’r gacen, sbwng, bisgeden neu sgon i fodloni’r gofynion
9.  Sicrhau bod y gacen, sbwng, bisgeden neu sgon ar y tymheredd cywir i gael ei gadw a’i weini
10. Storio unrhyw gacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau sydd wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Gwahanol fathau o gacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau a’u nodweddion
2.  Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
3.  Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau
4.  Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau neu gynhwysion eraill
5.  Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
6.  Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu yn ôl gofynion y cynnyrch
7.  Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio/pobi a gorffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau
8.  Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
9.  Sut i wirio ac addasu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau er mwyn sicrhau bod ganddynt y blas, lliw, ansawdd, maint a gorffeniad cywir
10. Y tymereddau ac amodau cywir i gadw a gweini cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau
11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir i storio cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffennu cacennau, sbyngau, bisgedi a sgonau


Cwmpas/ystod

1.     Dulliau paratoi
1.1   defnyddio cymysgedd parod
1.2   pwyso / mesur
1.3   hufennu / curo
1.4   chwisgio
1.5   plygu
1.6   rhwbio i mewn
1.7   iro
1.8   sgleinio
1.9   dogni
1.10 peipio
1.11 siapio
1.12 llenwi
1.13 rholio
1.14 leinio
1.15 trimio / eisio
1.16 taenu / llyfnhau 
1.17 tylino
1.18 cymysgu

  1.     Dulliau coginio

2.1   pobi

  •     Dulliau gorffennu

  • 3.1   taenellu / ysgeintio
    3.2   eisio
    3.3   cyflwyno
    3.4   ychwanegu cyfwydydd


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa


    Dolenni I NOS Eraill


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL 2FPC11/16

    Galwedigaethau Perthnasol

    Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    paratoi, coginio, gorffennu, cacennau, sbyngau, bisgedi, sgonau, sylfaenol