Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol, er enghraifft:
•cynhyrchion toes wedi’u cyfoethogi e.e. byns Chelsea, toesenni
•bara, rholiau bara
•bara naan
•bara pitta
•pizzas
•toes bara soda
Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â chynhyrchion bara a thoes sylfaenol. Mae’r safon hefyd yn ymdrin â dulliau gorffennu ar gyfer cynhyrchion bara a thoes.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o gynhwysion mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu’r cynnyrch bara a thoes
4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffennu’r cynnyrch bara a thoes
5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch bara a thoes
6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch bara a thoes
7. Sicrhau bod gan y cynnyrch bara a thoes y blas, lliw, ansawdd, maint a gorffeniad cywir
8. Gorffennu a chyflwyno’r cynnyrch bara a thoes i fodloni’r gofynion
9. Sicrhau bod y cynnyrch bara a thoes ar y tymheredd cywir i gael ei gadw a’i weini
10. Storio unrhyw gynhyrchion bara a thoes sydd wedi'u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Gwahanol fathau o gynhyrchion bara a thoes a’u nodweddion
2. Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhyrchion bara a thoes
4. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhyrchion bara a thoes neu gynhwysion eraill
5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu yn ôl gofynion y cynnyrch
7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion bara a thoes
8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cynhyrchion bara a thoes a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
9. Sut i wirio ac addasu cynnyrch bara a thoes er mwyn sicrhau bod ganddo’r blas, lliw, ansawdd, maint a gorffeniad cywir
10. Y tymereddau ac amodau cywir i gadw a gweini cynhyrchion bara a thoes
11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir i storio cynhyrchion bara a thoes na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffennu cynhyrchion bara a thoes
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara a thoes
1.1 toes wedi’i gyfoethogi
1.2 toes bara soda
1.3 toes bara
1.4 toes naan / toes pitta
1.5 toes pizza
Dulliau paratoi
2.1 pwyso / mesur
2.2 gogru
2.3 cymysgu / tylino
2.4 codi
2.5 cnocio
2.6 siapio
Dulliau coginio
3.1 pobi
3.2 ffrio
Dulliau gorffennu
4.1 sgleinio
4.2 eisio
4.3 llenwi
4.4 addurno
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Geiriau Allweddol
paratoi, coginio, gorffennu, bara, toes, sylfaenol