Paratoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol, er enghraifft:
• wyau wedi’u sgramblo
• wyau benedict
• omledau
• wyau mewn selsig
• wyau wedi’u pobi
• cwstard wy
• meringue
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â seigiau wy sylfaenol.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau wy sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o wyau a chynhwysion eraill, a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod yr wyau a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saig wy
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig wy
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig wy
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig wy
- Sicrhau bod gan y saig wy y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig wy i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig wy ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw brydau wy a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o seigiau wy a’u nodweddion
- Sut i wirio bod yr wyau a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn wyau
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r wyau neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau wy
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio wyau a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu saig wy i sicrhau bod ganddi’r lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau wy
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau wy na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau wy
Cwmpas/ystod
1. Paratoi
12.1 chwisgo
12.2 cymysgu
12.3 plygu
2. Dulliau coginio
2.1 ffrio
2.2 ar gridyll
2.3 potsio
2.4 pobi
2.5 sgramblo
2.6 bain marie
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno