Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â pharatoi, coginio a gorffennu seigiau protein llysiau sylfaenol, er enghraifft:
•tsili
•seigiau melys a sawrus
•spaghetti bolognaise
•pastai’r bwthyn
Mae’r safon yn ymdrin ag amrywiaeth o fathau o brotein llysiau a’r gwahanol ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â’r cynhwysyn hwn.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu seigiau protein llysiau sylfaenol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Paratoi, coginio a gorffennu seigiau protein llysiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Dewis y math a’r maint o brotein llysiau a chynhwysion eraill mae eu hangen ar gyfer y gwaith paratoi
2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni’r gofynion ansawdd a gofynion eraill
3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffennu’r protein llysiau
4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffennu’r saig protein llysiau
5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig protein llysiau
6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig protein llysiau
7. Sicrhau bod gan y saig protein llysiau y blas, lliw, ansawdd a maint cywir
8. Gorffennu a chyflwyno’r saig protein llysiau i fodloni’r gofynion
9. Sicrhau bod y saig protein llysiau ar y tymheredd cywir i gael ei chadw a’i gweini
10. Storio unrhyw seigiau protein llysiau sydd wedi'u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Manteision defnyddio protein llysiau i rai cwsmeriaid
2. Sut i wirio bod y protein llysiau a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn protein llysiau
4. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r protein llysiau neu gynhwysion eraill
5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffennu yn ôl gofynion y saig
7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffennu seigiau protein llysiau
8. Y tymereddau cywir ar gyfer seigiau protein llysiau a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
9. Sut i wirio ac addasu saig protein llysiau er mwyn sicrhau bod ganddi’r blas, lliw, ansawdd, maint a gorffeniad cywir
10. Y tymereddau ac amodau cywir i gadw a gweini seigiau protein llysiau
11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir i storio seigiau protein llysiau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
12. Opsiynau bwyta’n iach wrth wneud seigiau protein llysiau
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant
Geiriau Allweddol
paratoi, coginio, gorffennu, protein, llysiau, sylfaenol