Coginio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau llysiau
sylfaenol, er enghraifft:
• tatws dauphinoise
• blodfresych mewn saws caws
• rholiau gwanwyn
• pupurau wedi’u llenwi
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o lysiau, gan gynnwys gwreiddlysiau, bylbiau, hadau a ffrwyth-lysiau ymhlith eraill, ac amrywiol ddulliau coginio. Yna, mae’n ymwneud â dulliau gorffen.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau llysiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y llysiau yn bodloni gofynion y saig
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y seigiau llysiau
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y llysiau
- Cyfuno’r llysiau â chynhwysion eraill
- Coginio’r llysiau i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw lysiau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i wirio bod y llysiau yn bodloni gofynion y saig
- Llysiau cyffredin sydd ar gael ym mhob tymor
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o lysiau
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir y mae eu hangen i gyflawni pob dull coginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i gyflawni pob dull coginio yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o lysieuyn, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng coginio llysiau gwyrdd a gwreiddlysiau
- Sut i gynnal gwerth maethol llysiau wrth eu coginio
- Y prif resymau dros flansio llysiau
- Pa lysiau sy’n addas ar gyfer stemio ar bwysedd uchel ac ar bwysedd isel, a pham
- Beth yw’r tymereddau cywir ar gyfer pob dull coginio, yn briodol i bob math o lysieuyn, a pham mae’r rhain yn bwysig
- Sut i gyflawni dulliau gorffen ar gyfer seigiau llysiau
- Sut i wirio ac addasu saig llysiau i wneud yn siŵr bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau llysiau
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau llysiau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau llysiau
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
17.1 gwreiddlysiau
17.2 cloron
17.3 bylbiau
17.4 fflurbennau
17.5 ffyngau
17.6 hadau a chodennau
17.7 dail
17.8 coesynnau
17.9 ffrwyth-lysiau
2. Dulliau coginio
2.1 piclo
2.2 blansio
2.3 berwi
2.4 rhostio
2.5 pobi
2.6 grilio
2.7 brwysio
2.8 ffrio (dwfn/bas/tro ffrio)
2.9 stemio
2.10 stiwio
2.11 adfywio
2.12 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno