Paratoi, coginio a gorffen seigiau reis sylfaenol

URN: PPL2PC18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau reis sylfaenol, er enghraifft:
• reis wedi'i ffrio ag wy
• risoto
• pilaff
• cejerî
• tro ffrio
• dolmades
• pwdin reis
• swshi

Mae’r safon yn ymwneud â mathau amrywiol o reis, a ddefnyddir mewn seigiau melys a sawrus, a’r technegau paratoi a choginio cysylltiedig.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau reis sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau reis sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o reis a chynhwysion eraill, a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y reis a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saig reis
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig reis
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig reis
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig reis
  7. Hidlo a mowldio’r reis, fel y u angen
  8. Sicrhau bod gan y saig reis y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  9. Garneisio a chyflwyno’r saig reis i fodloni gofynion
  10. Sicrhau bod y saig reis ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  11. Gwaredu neu, os yw eich sefydliad yn caniatáu, storio unrhyw reis a goginiwyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o seigiau reis a’u nodweddion
  2. Sut i wirio bod y reis a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn reis
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r reis neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau reis
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio reis a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i wirio ac addasu saig reis i sicrhau bod ganddi’r lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  10. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau reis
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau reis na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau reis

Cwmpas/ystod

1. Reis
12.1 hir
12.2 byr
12.3 crwn
12.4 brown

2. Dulliau paratoi
2.1 mwydo
2.2 golchi

3. Dulliau coginio
3.1 berwi
3.2 ffrio
3.3 brwysio
3.4 stemio
3.5 stiwio
3.6 pobi
3.7 mewn microdon

4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC18

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, sylfaenol, reis