Paratoi, coginio a gorffen cawl sylfaenol

URN: PPL2PC17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cawl sylfaenol, er enghraifft:
• coesgyn ham a phys â mintys
• cawl madarch hufennog gydag olew cloron y moch gwyn
• velouté blodfresych
• cawl pen dafad

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r amrywiol ddulliau paratoi, nifer o ddulliau coginio, yna sut i orffen cawl sylfaenol amrywiol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cawl sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cawl sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint mae eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y cawl
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y cawl
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y cawl
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y cawl
  7. Sicrhau bod gan y cawl y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
  8. Garneisio a chyflwyno’r cawl i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y cawl ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
  10. Storio unrhyw gawl a goginiwyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o gawl sylfaenol a’u nodweddion
  2. Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion cawl
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
  5. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen cawl
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cawl a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i wirio ac addasu cawl i sicrhau bod ganddo’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
  10. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini cawl
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio cawl na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cawl

Cwmpas/ystod

1. Cawl
12.1 pureé
12.2 potes
12.3 wedi’i orffen â hufen
12.4 velouté

2. Dulliau paratoi
2.1 pwyso / mesur
2.2 torri

3. Dulliau coginio
3.1 chwysu llysiau
3.2 mudferwi
3.3 berwi
3.4 gwneud roux
3.5 rhoi trwy liain / hidlo
3.6 blendio / hylifo
3.7 sgimio

4. Dulliau gorffen
4.1 ychwanegu hufen
4.2 garneisio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC17

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, cawl sylfaenol