Coginio a gorffen seigiau offal sylfaenol

URN: PPL2PC14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau offal sylfaenol, er enghraifft:
• arennau sauté
• afu/iau wedi’i frwysio
• pastai stêc a lwlod
• pate

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o offal, gan gynnwys yr afu/iau a’r arennau, ynghyd â nifer o ddulliau coginio. Yna, mae’r safon yn mynd ymlaen i ddisgrifio sut rydych chi’n gorffen saig offal sylfaenol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau offal sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau offal sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod yr offal yn bodloni gofynion y saig
  2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen yr offal.
  3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen yr offal
  4. Cyfuno’r offal â chynhwysion eraill
  5. Coginio’r offal i fodloni gofynion y saig
  6. Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  7. Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
  8. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  9. Storio unrhyw offal wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i wirio bod yr offal yn bodloni gofynion y saig
    2.P a bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o offal
  2. Beth ddylech chi ei wneud os bydd unrhyw broblemau gyda’r offal neu gynhwysion eraill
  3. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau coginio gofynnol
  4. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
  5. Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
  6. Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o offal
  7. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio offal a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  8. Sut i gyflawni’r dulliau gorffen
  9. Sut i wirio ac addasu saig offal i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  10. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau offal
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau offal na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen offal

Cwmpas/ystod

1. Offal
13.1 yr afu/iau
13.2 yr arennau
13.3 cefndedyn
13.4 boch

2. Dulliau coginio
2.1 grilio
2.2 ar gridyll
2.3 ffrio bas
2.4 berwi
2.5 brwysio
2.6 potsio
2.7 cyfuno dulliau coginio
2.8 pobi
2.9 stemio
2.10 ‘bain marie’
2.11 sauté

3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC14

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

coginio, gorffen, offal, sylfaenol