Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â choginio a gorffennu seigiau helgig sylfaenol, er enghraifft:
•stiw cwningen
•clun cig carw
•ffesant rhost
Mae’r safon yn cynnwys helgig o anifeiliaid ac adar a nifer o ddulliau coginio. Wedyn mae’n mynd ymlaen i ymdrin â dulliau gorffennu ar gyfer seigiau helgig.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol mae eu hangen i goginio a gorffennu seigiau helgig sylfaenol. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd yn y gegin
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Coginio a gorffennu seigiau helgig sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio bod yr helgig yn bodloni gofynion y saig
2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffennu’r helgig
3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffennu’r helgig
4. Cyfuno’r helgig â chynhwysion eraill
5. Coginio’r helgig i fodloni gofynion y saig
6. Sicrhau bod gan y saig y blas, lliw, ansawdd a maint cywir
7. Addurno a chyflwyno’r saig i fodloni’r gofynion
8. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i gael ei chadw a’i gweini
9. Storio unrhyw helgig sydd wedi'i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
1. Sut i wirio bod yr helgig yn bodloni gofynion y saig
2. Pa fathau o helgig sydd ar gael ym mha dymhorau
3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o helgig
4. Pam ac i bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r helgig neu gynhwysion eraill
5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
6. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
7. Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn ôl gofynion y saig
8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffennu cywir ar gyfer pob math o helgig
9. Sut i gadw helgig yn llaith yn ystod coginio a gorffennu
10. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio helgig a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
11. Sut i gyflawni’r dulliau gorffennu
12. Sut i wirio ac addasu saig helgig er mwyn sicrhau bod ganddi’r blas, lliw, ansawdd a maint cywir
13. Y tymereddau cywir i gadw a gweini seigiau helgig
14. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir i storio seigiau helgig na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
15. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffennu helgig
Cwmpas/ystod
1. Helgig
1.1 o anifeiliaid
1.2 o adar
Dulliau coginio
2.1 selio
2.2 grilio
2.3 gradellu
2.4 ffrio’n ysgafn
2.5 rhostio
2.6 ffrio’n ddwfn / ffrio’n fas
2.7 brwysio
2.8 stiwio
2.9 cyfuno dulliau coginio
Dulliau gorffennu
3.1 addurno
3.2 ychwanegu saws
3.3 cyflwyno
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Geiriau Allweddol
coginio, gorffennu, helgig, sylfaenol