Gwneud gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd a glanhau’n drylwyr
URN: PPL2HK7
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cadw Tŷ a Swyddfa Flaen
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â gwneud gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd a glanhau’n drylwyr. Enghreifftiau o hyn, o bosibl, yw troi matresi, newid llenni neu dynnu llwch ar uchder. Mae i gynorthwywyr cadw tŷ a staff glanhau. Mae’r rhain yn dasgau pwysig ac os nad ydyn nhw’n cael eu gwneud gallai cwsmeriaid sylwi arnyn nhw a gallan nhw wneud sylwadau amdanyn nhw’n fuan iawn, yn arbennig ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Gwneud gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd a glanhau’n drylwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio’r amserlenni ar gyfer y gwaith arfaethedig i wasanaethu ystafelloedd a gweithio allan faint o amser sydd gennych ar gyfer pob tasg a phob ystafell
2. Gwirio bod gennych y wybodaeth angenrheidiol am yr amserlen a’r gofynion o ran gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd
3. Gofyn am gymorth gyda thasgau mae angen mwy nag un person i’w cyflawni
4. Cael y stoc angenrheidiol i amnewid eitemau yn yr ystafell
5. Gwneud y gwaith cyfnodol gofynnol i wasanaethu’r ystafell
6. Gadael yr ystafell yn y cyflwr gofynnol
7. Dilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer yr eitemau rydych wedi’u hamnewid
8. Canfod a rhoi gwybod am unrhyw beth sydd angen gwaith cynnal a chadw arbenigol
9. Gwirio’r ystafell yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
10. Gwirio’r amserlenni ar gyfer y gwaith arfaethedig i lanhau’n drylwyr a gweithio allan faint o amser sydd gennych ar gyfer pob tasg a phob ystafell
11. Cael y wybodaeth angenrheidiol am yr amserlen a’r gofynion o ran gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr
12. Gofyn am gymorth gyda thasgau mae angen mwy nag un person i’w cyflawni
13. Paratoi mannau ar gyfer gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr
14. Dewis y cyfarpar a deunyddiau glanhau cywir i bob rhan o’r mannau hyn
15. Gwneud y gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr yn ôl y gofyn
16. Gadael yr ystafell yn y cyflwr gofynnol
17. Canfod a rhoi gwybod am unrhyw eitemau sydd angen gwaith cynnal a chadw arbenigol
18. Gwirio’r ystafell yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.Yr amserlen ar gyfer gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd a glanhau’n drylwyr yn eich sefydliad a pham mae amserlenni’n bwysig
2.Pam mae’n bwysig dilyn yr amserlen hon
3.Pam mae angen archwilio’r man gwaith ar ôl gorffen
4.Safonau ansawdd eich sefydliad o ran golwg a glanweithdra ystafelloedd
5.Mannau ac eitemau y gall fod angen gwaith cynnal a chadw arbenigol arnyn nhw, a sut i roi gwybod am y rhain
6.Sut i ganfod eitemau y gall fod angen eu hamnewid a chael yr eitemau cywir
7.Y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio ag eitemau rydych wedi’u hamnewid
8.Y paratoadau mae angen i chi eu gwneud ar gyfer gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr a pham mae’r rhain yn bwysig
9.Y cyfarpar a’r deunyddiau mae eu hangen arnoch ar gyfer gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr a sut i’w cael
10.Sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r deunyddiau yn effeithlon ac yn ddiogel
11.Gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer tynnu llwch ar uchder
Cwmpas/ystod
1. Gwaith cyfnodol i wasanaethu ystafelloedd
1.1 troi matresi
1.2 newid llenni
1.3 newid dodrefn meddal eraill yn ôl y gofyn
1.4 unrhyw weithgarwch cyfnodol arall i wasanaethu ystafelloedd sydd gan y sefydliad
Paratoadau
2.1 defnyddio dillad diogelwch priodol
2.2 symud celfi er mwyn glanhau o danynt
2.3 diogelu mannau cyfagos a all gael eu difrodi
Gwaith cyfnodol i lanhau’n drylwyr
3.1 tynnu llwch ar uchder
3.2 sugno llwch o dan gelfi ac ar hyd ymylon carpedi
3.3 glanhau rheiliau cawodydd, trapiau plygiau, draeniau, gylïau a’r tu ôl i bedestalau
3.4 glanhau cortynnau tynnu, plygiau a switshis
3.5 glanhau byrddau sgyrtin a gwaith paent arall
3.6 glanhau tyllau awyr ac echdynwyr
3.7 unrhyw weithgarwch cyfnodol arall i lanhau’n drylwyr sydd gan y sefydliad
Gwirio
4.1 gwirio gennych chi’ch hun
4.2 gwirio gan oruchwyliwr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dillad diogelwch
Er enghraifft, gwisg swyddogol a menig
Tynnu llwch ar uchder
Er enghraifft, lamplenni, bylbiau golau, rheiliau lluniau
Gwaith cynnal a chadw arbenigol
Er enghraifft, amnewid eitemau sy’n wallus
Dodrefn meddal
Gan gynnwys blancedi, gorchuddion gwely a chlustogau
Llenni
Gan gynnwys llenni net a llenni cawod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL 2HK7/10
Galwedigaethau Perthnasol
Howscipar, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwasanaethu ystafelloedd, glanhau’n drylwyr