Gweithio gyda chemegion, hylifau a chyfarpar gwahanol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis y cemegion neu’r hylifau glanhau cywir, defnyddio’r cemegion yn gywir a’u gwaredu’n ddiogel. Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â defnyddio cyfarpar. Mae ar gyfer cynorthwywyr cadw tŷ a staff glanhau. Mae defnyddio cemegion, hylifau a chyfarpar yn gofyn am hyfforddiant a dealltwriaeth drylwyr i sicrhau eich diogelwch chi a, chyn bwysiced, diogelwch eich gwesteion a’ch cwsmeriaid. Yn ystod eich cyfnod sefydlu yn eich gweithle, efallai cawsoch hyfforddiant COSHH, a fydd yn eich helpu i ddeall a chyflawni’r safon hon.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Weithio gan ddefnyddio cemegion, hylifau a chyfarpar gwahanol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y cemegion neu’r hylifau cywir ar gyfer yr ardal byddwch chi’n ei glanhau
- Gwisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol yn ôl y gofyn
- Paratoi a defnyddio’r cemegyn neu’r hylif yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gan ddefnyddio’r cyfarpar cywir
- Storio’r cemegion neu’r hylifau yn ddiogel neu’n briodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cwblhau unrhyw ddogfennaeth berthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Dewis y darn cywir o gyfarpar trydanol neu gyfarpar â llaw, ac atodion a chemegion ,lle bo gofyn, ar gyfer yr ardal y byddwch chi’n ei glanhau
- Gwirio bod y cyfarpar yn ddiogel i’w ddefnyddio
- Paratoi’r ardal i’w glanhau
- Defnyddio’r cyfarpar, a’r atodion lle bo’r angen, yn ddiogel ac yn gywir
- Gadael yr ardal yn lân ac yn daclus ac yn rhydd rhag malurion
- Storio cyfarpar ac atodiadau yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Delio ag unrhyw broblemau yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gofynion cyfreithiol sylfaenol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel wrth ddefnyddio cemegion glanhau
- Yr arwyddion rhybudd a ddefnyddir ar gynwysyddion cemegion glanhau a beth yw eu hystyr
- Sut i ddewis y cemegion / hylifau priodol ar gyfer pob math o waith glanhau
- Pam mae’n bwysig gwisgo cyfarpar diogelu personol wrth ddefnyddio cemegion / hylifau
- Pam mae’n beryglus cymysgu mathau penodol o gemegion / hylifau gyda’i gilydd
- Pam mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gemegion / hylifau glanhau
- Beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n dilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer y math hwn o waith
- Pam mae angen dilyn arferion a threfn gwaith
- Pa baratoadau ddylai gael eu gwneud i’r ardal waith cyn defnyddio cemegion
- Y dogfennau mae angen i chi eu llenwi wrth ddefnyddio cemegion
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n paratoi ac yn defnyddio cemegion a sut i ddelio â’r rhain
- Gofynion cyfreithiol sylfaenol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel wrth ddefnyddio cemegion a chyfarpar glanhau â llaw a thrydanol
- Sut i ddewis cyfarpar glanhau â llaw a thrydanol ar gyfer y mathau o lanhau rydych chi’n eu cyflawni
- Pam mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer cyfarpar â llaw a chyfarpar trydanol
- Pa ffactorau y mae angen eu hystyried a’r prif beryglon wrth defnyddio cyfarpar trydanol, a sut i osgoi’r rhain
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n paratoi ac yn defnyddio cyfarpar glanhau trydanol a sut i ddelio â’r rhain
- Technegau trin a chodi diogel a pham ddylai’r rhain gael eu defnyddio
- Pam dylai cyfarpar gael ei lanhau a’i storio’n gywir ar ôl ei ddefnyddio
Cwmpas/ystod
1. Cemegion
18.1 defnydd glanhau arwynebau amrywiol
18.2 defnydd glanhau toiledau
18.3 defnydd glanhau gwydr
18.4 peraroglydd
18.5 llathrydd
18.6 diheintydd
18.7 cemegion i’w defnyddio ar garpedi / lloriau
18.8 gwaredwyr staeniau a gwaredwyr saim
18.9 eraill
2. Cyfarpar â llaw
2.1 systemau mopio at ddefnydd gwlyb
2.2 systemau mopio at ddefnydd sych
2.3 clytiau glanhau wedi’u dosbarthu yn ôl lliw
2.4 sychwr llwch
2.5 bwced
2.6 sbwng / pad nad yw’n sgraffinio
2.7 brwshys
2.8 padell lwch
2.9 pad sgraffinio
3. Cyfarpar Trydanol
3.1 sugnwyr llwch
3.2 sychwyr sugnedd
3.3 llathryddion / bwrneisyddion
3.4 sgwrwyr
3.5 echdynwyr chwistrell
4. Atodiadau
4.1 atodiadau llawr caled / meddal
4.2 atodiadau clustogwaith
4.3 brwshys / padiau
4.4 offer agennau
4.5 tyllau / echdynwyr chwistrell
4.6 pibellau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dillad amddiffynnol
Er enghraifft, menig ac oferôls
Dogfennaeth berthnasol
Unrhyw gofnodion defnyddio cemegion sy’n ofynnol yn eich sefydliad