Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch

URN: PPL2GEN5
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn adlewyrchu’r canllawiau cyfredol ar ddiogelwch bwyd yn y Deyrnas Unedig, ac yn integreiddio themâu allweddol glanhau ac atal halogiad. Mae’n rhoi i’r staff wybodaeth a sgiliau adolygu peryglon a defnyddio gweithdrefnau seiliedig ar beryglon i gynnal diogelwch bwyd yn eu hadran.

Mae safonau ar wahân ar gael i’r rheiny sy’n coginio a pharatoi bwyd, ac i reolwyr a goruchwylwyr sydd â chyfrifoldebau ehangach am ddiogelwch bwyd mewn gweithrediad arlwyo.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch


 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad o ran hylendid ac ymddygiad personol.
2. Sicrhau bod wynebau a chyfarpar yn lân ac mewn cyflwr da
3. Defnyddio cadachau a chyfarpar glân ac addas i sychu a glanhau rhwng tasgau
4. Peidio â defnyddio unrhyw wynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â chydrannau rhydd, a rhoi gwybod amdanynt i’r person sy’n gyfrifol
5. Gwaredu gwastraff yn brydlon, yn hylan ac yn briodol
6. Nodi unrhyw ddifrod i waliau, lloriau, nenfydau, celfi a ffitiadau, cymryd camau priodol i ddelio â’r difrod, a rhoi gwybod amdano i’r person priodol
7. Nodi unrhyw arwyddion o blâu, cymryd camau priodol i ddelio â’r plâu a rhoi gwybod amdanynt i’r person priodol
8. Cadw cofnodion angenrheidiol yn gywir ac yn gyfredol

 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Y mathau o halogiad a thraws-halogiad bwyd ac wynebau a sut y gallant ddigwydd
2.  Cyfryngau halogiad gan gynnwys wynebau
3.  Y mathau o wenwyn bwyd a sut y gall organebau gwenwyn bwyd halogi bwyd
4.  Symptomau cyffredin gwenwyn bwyd 
5.  Y ffactorau sy’n ei gwneud yn bosibl i organebau gwenwyn bwyd dyfu
6.  Sut mae hylendid ac ymddygiad personol yn effeithio ar ddiogelwch bwyd
7.  Eich rôl chi yn y gwaith o sylwi ar beryglon a delio â nhw, ac o leihau risg halogiad
8.  Pwysigrwydd nodi peryglon bwyd yn brydlon
9.  Yr effaith y gall peryglon ei chael ar iechyd os nad oes neb yn sylwi arnynt ac yn delio â nhw’n brydlon
10. Pwysigrwydd asesiadau risg
11. Mathau o ymddygiad anniogel a all effeithio ar ddiogelwch bwyd a pham mae’n bwysig osgoi ymddygiad o’r math hwn wrth weithio gyda bwyd
12. Y gofynion cyfreithiol a rheoliadol ar gyfer diogelwch bwyd, pwysigrwydd cydymffurfio â nhw, goblygiadau peidio â chydymffurfio a rôl swyddogion gorfodi
13. Pwysigrwydd cadw bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio ar wahân a chadw seigiau wedi’u gorffennu ar wahân, a dulliau o wneud hyn
14. Yr ystod dymereddau beryglus, pam mae angen cadw bwyd ar dymereddau penodol a sut i sicrhau hyn 
15. Pa weithdrefnau i’w dilyn wrth ddelio â stoc gan gynnwys danfoniadau, storio, marcio dyddiadau a chylchdro stoc, a pham mae’n bwysig eu dilyn mewn modd cyson
16. Pam mae’n bwysig cadw mannau gweithio a’r amgylchedd gweithio’n lân ac yn daclus, ac offer, teclynnau a chyfarpar yn lân, mewn cyflwr da ac wedi’u storio’n gywir
17. Sut mae’r dulliau glanhau a chynnal a chadw cyfarpar, wynebau a’r amgylchedd, a pha mor aml y gwneir hyn, yn effeithio ar ddiogelwch bwyd yn y gweithle
18. Y camau y dylid eu cymryd wrth ymateb pan fo rhywun wedi sylwi ar berygl posibl, gan gynnwys y person cywir y dylid rhoi gwybod iddo am faterion o’r fath
19. Y mathau o wastraff bwyd y gellir eu cael yn y gweithle a sut y dylid ei drin yn ddiogel yn y gweithle
20. Y prif fathau o blâu a all achosi risg i ddiogelwch bwyd, sut y gallant ddigwydd, sut i’w hadnabod, sut i’w hatal
21. Pam mae’n rhaid i wynebau a chyfarpar fod yn lân cyn dechrau tasg newydd a sut i sicrhau hynny
22. Pam mae’n bwysig defnyddio dim ond cadachau a chyfarpar glân ac addas wrth lanhau rhwng tasgau, a sut i wneud hynny
23. Pam y gall wynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â chydrannau rhydd fod yn beryglus i ddiogelwch bwyd
24. Y mathau o wynebau a chyfarpar wedi’u difrodi a all achosi peryglon i ddiogelwch bwyd, a beth i’w wneud amdanynt
25. Pam mae’n bwysig clirio a gwaredu gwastraff yn brydlon ac yn ddiogel a sut i wneud hynny
26. Sut y gall difrod i waliau, lloriau, nenfydau, celfi a ffitiadau achosi peryglon i ddiogelwch bwyd, a’r math o ddifrod y dylech chwilio amdano
27. Y mathau o blâu y gallech ddod o hyd iddynt mewn gweithrediadau arlwyo, a sut i adnabod yr arwyddion y gallant fod yno


Cwmpas/ystod

1.    Peryglon / Ffynonellau halogiad
1.1  microbaidd
1.2  cemegol
1.3  ffisegol
1.4  alergenig

  1.    Cyfryngau halogiad

2.1  dwylo
2.2  cadachau a chyfarpar
2.3  wynebau mae dwylo’n dod i gysylltiad â nhw
2.4  wynebau mae bwyd yn dod i gysylltiad â nhw
2.5  llwybrau halogi

  •    Hylendid ac ymddygiad personol

  • 3.1  gwisgo dillad diogelwch a gwisg pen
    3.2  dylid trin bwyd yn uniongyrchol cyn lleied ag sy’n bosibl
    3.3  dilyn gweithdrefnau argymelledig ar gyfer golchi dwylo, gan gynnwys pryd i olchi’ch dwylo (ar ôl mynd i’r toiled, wrth fynd i fannau paratoi, coginio a gweini bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd a gwastraff, a chyn gweini bwyd)
    3.4  rhoi gwybod am doriadau, cornwydydd, crafiadau a briwiau 
    3.5  trin a gorchuddio toriadau, cornwydydd, heintiadau’r croen a chrafiadau
    3.6  rhoi gwybod am salwch a heintiadau, yn arbennig salwch stumog, cyn mynd i’r mannau paratoi, coginio a gweini bwyd 
    3.7  bod â gwallt, croen, ewinedd a dillad glân
    3.8  gwisgo gemwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad yn unig
    3.9  cofnodi digwyddiadau
    3.10 osgoi ymddygiad gan gynnwys: cyffwrdd â’ch wyneb, trwyn neu geg; cnoi gwm; bwyta; smygu – pan ydych chi’n gweithio gyda bwyd

  •    Wynebau a chyfarpar

  • 4.1  wynebau a theclynnau a ddefnyddir yn yr adran
    4.2  cyfarpar glanhau priodol


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa


    Dolenni I NOS Eraill


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL2GEN4/09

    Galwedigaethau Perthnasol

    Aelod o'r tîm, Howscipar, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ)

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    Diogelwch bwyd; peryglon; glanhau