Archebu stoc
URN: PPL2GEN2
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin ag archebu stoc yn unol â chytundebau prynu sefydledig. Mae’n nodi nifer o ddulliau archebu, megis yn electronig, yn ogystal â’r math o wybodaeth mae ei hangen yn gyson yn ystod y broses archebu.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
• Archebu stoc
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio lefelau stoc yn rheolaidd ac ymgynghori â chydweithwyr er mwyn penderfynu a oes angen stoc newydd
2. Nodi gofynion o ran stoc, gan sicrhau y bydd digon o le i’w storio pan fydd yn cyrraedd
3. Cael y dogfennau perthnasol i archebu stoc a, lle bo angen, cael caniatâd gan y person priodol i anfon archeb
4. Nodi’r wybodaeth ofynnol ar ddogfennau a defnyddio’r dull cywir o archebu o fewn yr amser gofynnol i sicrhau y bydd y danfoniad yn cyrraedd cyn i’r stoc bresennol ddarfod
5. Cynnal dogfennau’n unol â gofynion y sefydliad
6. Cael a ffeilio hysbysiad o archebion a anfonwyd a hysbysiad oddi wrth y cyflenwr
7. Ymateb i ymholiadau a datrys problemau sy’n codi ynghylch yr archeb o fewn eich awdurdod chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Beth yw’r broses archebu yn eich maes cyfrifoldeb chi
2. Pryd y dylech archebu stoc newydd yn unol â gofynion y sefydliad
3. Pwy sy’n gyfrifol am drefnu’r cytundeb prynu canolog
4. Beth sydd yn y cytundeb prynu canolog
5. Pam a phwy y dylid cysylltu ag ef pan mae problemau’n codi gyda’r broses archebu
6. Pryd mae angen i reolwr llinell gymeradwyo archebu
7. O ble i gael y dogfennau archebu
8. Pa wybodaeth mae angen ei nodi ar y dogfennau
9. Ble mae’r dogfennau archebu’n cael eu cadw
Cwmpas/ystod
1. Gofynion o ran stoc
1.1 math o gynnyrch
1.2 brand y cynnyrch
1.3 maint
Gwybodaeth ofynnol
2.1 maint
2.2 math o gynnyrch
2.3 dyddiad mae angen y danfoniad
2.4 manylion cyswllt
Dull archebu
3.1 electronig
3.2 yn bersonol
3.3 dros y ffôn
Problemau
4.1 maint
4.2 amser
4.3 dim danfoniad
4.4 argaeledd
4.5 math
4.6 ansawdd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gall dogfennau archebu fod yn rhai papur neu rai electronig gan ddibynnu ar y broses a’r system a ddefnyddir gan y sefydliad
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN2/15
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Aelod o'r tîm, Staff bar
Cod SOC
Geiriau Allweddol
archebu stoc, prynu, archebu, danfoniad, stoc, archebu, cyflenwr