Cwblhau dogfennau cegin
URN: PPL2GEN14
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â chwblhau dogfennau a ddefnyddir yn aml mewn ceginau: er enghraifft, siartiau tymheredd, taflenni amser, ffurflenni cofnodi damweiniau, gwybodaeth diogelwch bwyd ac adroddiadau am namau ar gyfarpar.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
• Cwblhau dogfennau cegin
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Gwirio bod digon o ddogfennau perthnasol yn barod i’w defnyddio yn unol â safon eich gweithle
2. Cwblhau dogfennau’n gywir, yn ddarllenadwy ac yn brydlon yn unol â safonau’ch gweithle
3. Prosesu dogfennau’n gywir yn unol â safonau’ch gweithle
4. Ateb unrhyw gwestiynau ynghylch cwblhau dogfennau o fewn terfynau eich awdurdod chi er mwyn dangos eich bod yn deall
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Pa ddogfennau mae angen eu cwblhau yn eich gweithle a pham mae’n bwysig gwneud hynny
2. Ble i gael y dogfennau perthnasol a sut i’w cwblhau yn unol â gofynion eich gweithle a’r gofynion cyfreithiol
3. Y gweithdrefnau ar gyfer copïo a ffeilio dogfennau a’u rhoi ar waith yn eich gweithle
4. I bwy a pham y mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda dogfennau
5. Pwysigrwydd cwblhau dogfennau’n gywir, yn ddarllenadwy ac yn brydlon
6. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth fonitro a chwblhau dogfennau cegin
Cwmpas/ystod
1. Dogfennau perthnasol
1.1 siartiau tymheredd
1.2 gwybodaeth diogelwch bwyd
1.3 ffurflenni cofnodi damweiniau
1.4 adroddiadau am namau ar gyfarpar
1.5 adroddiadau ar y defnydd o stoc
1.6 nodiadau danfon
1.7 rotâu glanhau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2PC1
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cwblhau, dogfennau, cegin