Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes
URN: PPL2FOH7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn amgylchedd busnes. Mae ar gyfer pobl sydd, efallai, yn gorfod cyfathrebu â chwsmeriaid yn rheolaidd ar draws pob cyfrwng. Mae’r ffordd y mae eich sefydliad yn cyflwyno’i hun i’ch cwsmeriaid yn hynod bwysig, p’un a yw hyn yn cael ei wneud ar lafar neu drwy sianeli ysgrifenedig.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfathrebu mewn amgylchedd busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi pwrpas y cyfathrebu a’r gynulleidfa
- Penderfynu pa ddull cyfathrebu i’w ddefnyddio
- Darganfod a dethol gwybodaeth sy’n cefnogi pwrpas y cyfathrebu ysgrifenedig
- Trefnu, strwythuro a chyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig yn addas i anghenion y gynulleidfa a beth rydych am ei ddweud
- Cadarnhau a darllen deunydd ysgrifenedig sy’n cynnwys gwybodaeth y mae ei hangen
- Dethol y prif bwyntiau y mae eu hangen o ddeunydd ysgrifenedig
- Defnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu cywir
- Defnyddio’r gosodiad cywir ar gyfer y math o destun a fwriedir
- Prawf darllen neu wirio gwaith a gwneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol.
- Cynhyrchu’r ohebiaeth ysgrifenedig i gwrdd â therfynau amser, gan adnabod y gwahaniaeth rhwng beth sy’n bwysig a beth sydd ar frys
- Cadw copi ffeil o bob gohebiaeth ysgrifenedig os yw’n berthnasol
- Cyflwyno gwybodaeth a syniadau ar lafar yn glir i bobl eraill
- Gwneud cyfraniadau at drafodaethau sy’n helpu i symud y drafodaeth yn ei blaen
- Gwrando’n weithgar ar wybodaeth sy’n cael ei chyfleu gan bobl eraill ac ymateb yn briodol
- Gofyn cwestiynau perthnasol i gael eglurhad o unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall
- Crynhoi’r ohebiaeth lafar gyda’r person/bobl rydych yn cyfathrebu â nhw i sicrhau bod yr ystyr wedi cael ei ddeall
- Myfyrio ar ddeilliannau cyfathrebu a nodi ffyrdd o ddatblygu sgiliau cyfathrebu ymhellach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rhesymau dros nodi pwrpas y cyfathrebu a’r gynulleidfa
- Dulliau cyfathrebu a sefyllfaoedd pryd y dylech eu defnyddio nhw
- Ffynonellau gwybodaeth perthnasol
- Sut i ddefnyddio iaith yn briodol i’r gynulleidfa, y dull cyfathrebu a ddewiswyd a phwrpas y cyfathrebu
- Sut i drefnu, strwythuro a chyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig i’r gynulleidfa
- Sut i wirio cywirdeb gwybodaeth ysgrifenedig
- Sut i ddefnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu yn gywir
- Egwyddorion Cymraeg Clir / Plain English
- Y rhesymau dros brawf ddarllen neu wirio gwaith
- Sut i adnabod pan fydd gwaith ar frys neu yn bwysig
- Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ffeilio cyfathrebiadau ysgrifenedig
- Sut i gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn glir ar lafar
- Ffyrdd o gyfrannu at drafodaethau a fydd yn helpu i symud y trafodaethau yn eu blaen
- Dulliau gwrando gweithredol
- Y rhesymau dros grynhoi cyfathrebu llafar
- Sut i geisio adborth ar b’un a wnaeth y cyfathrebu gyflawni ei bwrpas
- Gwerth myfyrio ar ddeilliannau’r cyfathrebu a nodi ffyrdd o ddatblygu sgiliau cyfathrebu ymhellach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2FOH7
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
4216
Geiriau Allweddol
paratoi, cyfathrebu, amgylchedd, busnes