Delio â bwciadau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â delio â phob math o ymholiadau bwcio, gan gynnwys diwygiadau a chanslo. Mae ar gyfer pobl sy’n gweithio ar y dderbynfa neu mewn timau bwciadau. Gall bwciadau gyrraedd y sefydliad trwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys ar-lein, trwy’r e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, drwy’r post, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddelio â bwciadau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio ag ymholiadau bwcio gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol, yn ôl y math o ymholiad
- Ymateb i’r ymholiad bwcio gyda gwybodaeth gywir
- Manteisio ar y cyfle i werthu cynnyrch a gwasanaethau eraill o fewn yr ohebiaeth yn ôl at y cwsmer, lle bo’n bosibl ac yn briodol
- Gwahodd eich cwsmeriaid i fwcio, lle bo’n bosibl, a derbyn a chofnodi eu manylion yn gywir
- Caniatáu am anghenion a gofynion y cwsmer a dilyn gweithdrefnau sefydliadol yn unol â hynny
- Delio ag unrhyw gadarnhad, canslo a diwygiadau yn unol â gweithdrefnau a gofynion sefydliadol
- Casglu gwybodaeth gyfredol am brisiau, bargeinion a rheolau trydydd parti, lle bo hynny’n berthnasol
- Nodi, gwirio a mynd ar drywydd bwciadau heb eu cadarnhau yn y system fwcio
- Cynnal cofnodion o’r holl fwciadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd delio â chwsmeriaid yn gwrtais ac yn gymwynasgar bob amser
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth lafar ac ysgrifenedig gywir i gwsmeriaid
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd gyda bwciadau, a sut i ddelio â’r rhain yn gywir
- Gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol yn gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau sydd ar werth wrth gael, cadarnhau, diwygio a chanslo ymholiadau bwcio
- Gweithdrefnau a systemau bwcio eich sefydliad, gan gynnwys systemau trydydd parti
- Pwysigrwydd uwch-werthu deallus a phriodol
- Beth yw gorfwcio, sut i ddelio â hyn a pham mae’n digwydd
- Pam mae’n bwysig cael a chofnodi manylion bwcio yn gywir
- Pam mae’n bwysig manteisio ar y cyfle i werthu cynnyrch a gwasanaethau
- Sut i ganslo a diwygio bwciadau
- Polisïau a gweithdrefnau canslo eich sefydliad a systemau trydydd parti
- Pam y gall fod angen cadarnhad a blaendal gan gwsmeriaid
- Pam mae’n hanfodol mynd ar drywydd bwciadau heb eu cadarnhau
Cwmpas/ystod
1. Cwsmeriaid
13.1 â cheisiadau arferol
13.2 ag anghenion arbennig
2. Ymholiadau
2.1 wyneb yn wyneb
2.2 dros y ffôn
2.3 drwy’r e-bost
2.4 systemau bwcio ar-lein
2.5 gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael
2.6 nodweddion a buddion gwasanaethau a chyfleusterau
2.7 prisiau
2.8 cynigion arbennig a hyrwyddiadau sydd ar gael
2.9 cyfryngau cymdeithasol
2.10 systemau bwcio trydydd parti
3. Systemau bwcio
3.1 systemau cyfrifiadurol
3.2 systemau â llaw
3.3 systemau ar-lein
4. Diwygiadau i fwciadau a chanslo bwciadau
4.1 newid bwciad
4.2 canslo bwciad
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmer
Unrhyw un sydd eisiau bwcio, diwygio bwciad neu ganslo bwciad