Cynnal a chadw seleri a barilanau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynnal a chadw cyflwr eich seler a’ch barilanau. Mae’n ymwneud â chynnal a chadw’r holl gyfarpar a sut rydych chi’n cynnal safon y diodydd i’ch cwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynnal a chadw seleri a barilanau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal a chadw seleri a barilanau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadw arwynebau’r seler yn rhydd rhag llwch, sbwriel, gollyngiadau a llwydni
- Gwirio bod draeniau, gylïau a swmpau yn lân ac yn llifo’n ddirwystr
- Cadw holl gyfarpar y seler yn lân ac yn gweithio’n dda
- Defnyddio’r cyfarpar glanhau, y cyfarpar diogelu personol a’r cemegion cywir a sicrhau eu bod yn cael eu storio’n gywir
- Cynnal tymheredd ac amodau amgylcheddol eich seler yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Diogelu’r seler rhag mynediad anawdurdodedig bob amser
- Storio a gosod barilanau llawn a’r cyflenwad nwy yn ddiogel a sicrhau eu bod yn gyfleus i’w defnyddio
- Dilyn gweithdrefnau diogel a chywir wrth ddatgysylltu barilanau neu’r cyflenwad nwy
- Gwirio mai’r farilan neu’r cyflenwad nwy newydd yw’r cynnyrch cywir a’u bod o fewn eu dyddiad cyn cysylltu
- Dilyn gweithdrefnau diogel a hylan wrth gysylltu’r farilan neu’r cyflenwad nwy newydd
- Storio barilanau neu nwy wedi’u defnyddio yn ddiogel ac yn gyfleus i’w danfon
- Delio â gollyngiadau yn y farilan neu’r cyflenwad nwy ar unwaith, yn effeithlon, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw ddigwyddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth gynnal a chadw seleri
- Pam mae’n bwysig cadw’r seler yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig
- Pam mae rheoli tymheredd ac amgylchedd y seler yn bwysig a beth yw’r amodau delfrydol
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gynnal a chadw’r seler a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi barilanau a nwy i’w defnyddio
- Beth yw risgiau cam-drafod barilanau a nwy a sut i adnabod arwyddion o ollyngiadau
- Pam dylid rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o ddifrod i farilanau neu nwy, ac i bwy
- Beth yw’r ystyriaethau diogelwch wrth ddelio â nwy cymysg a beth yw gweithdrefn eich gweithle ar gyfer delio ag argyfwng
- Sut i wybod p’un a yw cyflwr stoc wedi dirywio neu a yw stoc heibio’i ddyddiad, a pham mae hyn yn bwysig
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi barilanau a nwy i’w defnyddio a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1 Amodau amgylcheddol
1.1 tymheredd
1.2 goleuo
1.3 awyru
1.4 lleithder
2 Cyfarpar
2.1 rheseli / silffoedd / cewyll
2.2 unedau oergell / oeri
2.3 unedau cyflyru amgylcheddol
2.4 cyfarpar systemau glanhau
3 Diodydd / Nwy
3.1 cwrw / lager
3.2 seidr
3.3 cwrw dihopys
3.4 gwin
3.5 diodydd ysgafn
3.6 silindrau nwy
3.7 nwy swmp