Gweini diodydd alcoholig a diodydd ysgafn

URN: PPL2FBS2
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â sut yr ydych yn darparu amrywiaeth o ddiodydd i’ch cwsmeriaid yn ystod y gwasanaeth. Mae’n cynnwys diodydd alcoholig a diodydd ysgafn sy’n cael eu gweini trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys o optigau, o’r gasgen ac arllwys â llaw. Mae hefyd yn cynnwys sut yr ydych yn rhyngweithio â chwsmeriaid er mwyn darparu amgylchedd proffesiynol a chroesawgar.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i weini diodydd alcoholig a diodydd ysgafn. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:

•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo

•Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Gweini diodydd alcoholig a diodydd ysgafn


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Cydnabod eich cwsmeriaid wrth iddyn nhw gyrraedd y bar
2.  Delio â’r cwsmeriaid yn ôl y drefn maen nhw’n cyrraedd y bar lle bo’n bosibl
3.  Rhoi cymorth i gwsmeriaid yn ôl yr angen
4.  Sicrhau bod gan eich cwsmeriaid y rhestr diodydd gywir i ddewis ohoni
5.  Rhoi i’ch cwsmeriaid wybodaeth sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
6.  Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau lle bo’n briodol ac achub ar gyfleoedd i sicrhau’r archeb fwyaf posibl trwy ddefnyddio technegau gwerthu
7.  Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir a’u prosesu’n brydlon ac yn effeithlon
8.  Rhoi diodydd alcoholig i’r bobl a ganiateir yn unig
9.  Dewis y gwydr priodol, gan sicrhau ei fod yn lân a heb ei ddifrodi
10. Arllwys y ddiod yn ôl y cynnyrch yr ydych yn ei weini, a’i gweini ar y tymheredd cywir gyda’r addurn neu gyfwyd priodol
11. Delio â digwyddiadau sy’n ymwneud â chwsmeriaid yn effeithlon a rhoi gwybod i’r person priodol lle bo angen
12. Cadw’r mannau paratoi / gwasanaeth yn lân

 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Y ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol ynghylch trwyddedu, pwysau a mesurau a disgrifiadau masnach
2.  Pam mae’n rhaid i’r holl wybodaeth a roddir i gwsmeriaid fod yn gywir, yn enwedig mewn perthynas â chryfder diodydd, cynigion arbennig a hyrwyddiadau 
3.  Safon gwasanaeth cwsmeriaid eich gweithle
4.  Pam y dylech ddelio â chwsmeriaid yn ôl y drefn maen nhw’n cyrraedd lle bo’n bosibl
5.  Pam mae’n bwysig gwirio bod llestri gwydr yn lân a heb eu difrodi 
6.  Pam y dylid storio a gweini diodydd ar y tymheredd cywir
7.  Y technegau a chyfarpar cywir ar gyfer agor diodydd
8.  Y technegau cywir a safon gwasanaeth eich gweithle ar gyfer arllwys a gweini diodydd
9.  Y llestri gwydr cywir i’w defnyddio ar gyfer pob diod yn unol â safon gwasanaeth eich gweithle
10. Sut i ymateb i rywun a all fod o dan ddylanwad gormod o alcohol neu gyffuriau a pham y dylid rhoi gwybod i’r person priodol amdano 
11. Pam ac i bwy y dylid rhoi gwybod am yr holl ddigwyddiadau sy’n ymwneud â chwsmeriaid
12. Pam ac i bwy y dylid rhoi gwybod am bopeth sydd wedi’i dorri
13. Pam y dylid cadw mannau cwsmeriaid a gwasanaeth yn lân, yn daclus a heb sbwriel
14. Y mathau o sefyllfaoedd annisgwyl a all godi wrth weini diodydd a sut i ddelio â’r rhain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1.   Gwybodaeth i gwsmeriaid 
1.1 pris
1.2 cynnwys alcoholig / alcohol yn ôl cyfaint%
1.3 enw a math o ddiod
1.4 arddull a nodweddion

  1.   Diodydd

2.1 mewn poteli
2.2 o’r gasgen
2.3 o optig
2.4 arllwys â llaw
2.5 mewn cartonau
2.6 mewn caniau
2.7 poeth

  •   Cyfwydydd

  • 3.1 iâ 
    3.2 addurniadau bwyd
    3.3 eitemau addurnol / troyddion
    3.4 cyfwydydd ar gyfer diodydd poeth

  •   Cwsmeriaid

  • 4.1 ag anghenion rheolaidd
    4.2 ag anghenion afreolaidd

  •   Arddull gwasanaeth

  • 5.1 wrth y bar
    5.2 wrth y bwrdd

  •   Cyfarpar

  • 6.1 llestri gwydr
    6.2 jygiau / piserau
    6.3 llestri
    6.4 cyllyll, ffyrc a llwyau
    6.5 cynwysyddion ar gyfer diodydd poeth
    6.6 hambyrddau


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa


    Dolenni I NOS Eraill


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL2BS2/10

    Galwedigaethau Perthnasol

    Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    gweini; diodydd; bar