Hyrwyddo eitemau newydd ar y fwydlen
URN: PPL2FBS19
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch - Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â hyrwyddo eitemau ar y fwydlen sydd wedi’u cyflwyno’n ddiweddar, a/neu sy’n cael eu gwerthu fel rhan o hyrwyddiad. Mae hyn yn cynnwys defnyddio deunyddiau hyrwyddol fel cardiau plyg a phosteri i’w harddangos o gwmpas y man gwasanaeth. Mae’r safon hon hefyd yn adlewyrchu’r cymwyseddau mae eu hangen i dynnu sylw at seigiau newydd a fydd o bosibl yn apelio at y cwsmer.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a sgiliau technegol mae eu hangen i hyrwydd eitemau newydd ar fwydlen. Fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol canlynol, gan eu dewis fel sy’n briodol i’r swydd a’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a gwybodaeth technegol ar gyfer y safon:
•Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol ym maes arlwyo
•Cynnal diogelwch bwyd mewn lleoliad lletygarwch
•Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid i’r eithaf
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Hyrwyddo eitemau newydd ar y fwydlen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Cysylltu â chydweithwyr ac uwch aelodau o’r staff i ganfod pa eitemau ar y fwydlen sydd i gael eu hyrwyddo
2. Cael y deunyddiau hyrwyddol priodol
3. Cydosod ac arddangos deunyddiau hyrwyddol mewn modd sy’n eu gwneud yn glir ac yn ddeniadol i’r cwsmer
4. Sicrhau bod y mannau gwasanaeth yn lân ac wedi’u gosod yn gywir
5. Rhoi gwybod i gwsmeriaid am eitemau newydd ar y fwydlen mewn modd sy’n glir ac yn eu cynorthwyo
6. Ateb cwestiynau ynghylch blas, cynhwysion a natur yr eitem ar y fwydlen yn glir ac mewn modd sy’n cynorthwyo’r cwsmer
7. Cyfeirio at ddeunyddiau ac arddangosfeydd hyrwyddol er mwyn tynnu sylw at nodweddion yr eitemau ar y fwydlen
8. Rhoi adborth i’r bobl briodol ynghylch effaith yr hyrwyddiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Pam mae sefydliadau’n defnyddio gweithgareddau hyrwyddol
2. Y mathau o ddeunyddiau hyrwyddol y gellir eu defnyddio a’u manteision ac anfanteision cymharol
3. O ble y gellir cael deunyddiau hyrwyddol, a gofynion y sefydliad o ran eu defnyddio
4. Pryd y gellir defnyddio hyrwyddiadau fel arfer, gan gynnwys adeg gwyliau cyhoeddus a digwyddiadau chwaraeon/diwylliannol
5. Sut y gall y staff hyrwyddo eitemau ar y fwydlen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid
6. Y nodweddion allweddol y gellir tynnu sylw atyn nhw wrth ddisgrifio eitemau newydd / sy’n cael eu hyrwyddo ar y fwydlen i gwsmeriaid
7. Pam mae’n bwysig gwybod pa gynhwysion sydd mewn eitemau newydd / sy’n cael eu hyrwyddo ar y fwydlen
8. Y grwpiau cwsmeriaid na fyddai o bosibl yn cael eu denu at yr eitemau ar y fwydlen sy’n newydd / cael eu hyrwyddo a pham
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2PR27
Galwedigaethau Perthnasol
Pen-cogydd, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
Geiriau Allweddol
hyrwyddo, eitemau, bwydlen