Darparu gwasanaeth arian
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwasanaeth arian (silver service) amrywiaeth o eitemau bwyd. Mae’n delio â’r cyfarpar y bydd ei angen arnoch i ddarparu gwasanaeth arian, y mathau o fwydydd y gellir eu gweini fel hyn, o gawl a sawsiau i gig, dofednod, llysiau a phwdinau. Hefyd, mae’r safon yn delio â sut rydych chi’n clirio’r bwrdd rhwng cyrsiau gorffenedig er mwyn cynnal amgylchedd deniadol i’ch cwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i ddarparu gwasanaeth arian; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu gwasanaeth arian
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod eich cyfarpar gweini glân, heb ddifrod ac a baratowyd yn barod ar gyfer gwasanaeth, yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod y bwyd byddwch yn ei weini o’r math cywir ac o’r maint a’r ansawdd cywir sy’n ofynnol, a’i fod wedi’i drefnu mewn ffordd sy’n caniatáu am ei weini’n hawdd
- Cyflwyno’r eitemau bwyd, eu rhannu’n ddognau a’u gweini yn ddeniadol, gan ddefnyddio’r cyfarpar gweini priodol
- Trin a gwaredu cyfarpar ac eitemau bwyd diangen yn briodol er mwyn cynnal golwg ac awyrgylch ardal giniawa’r cwsmeriaid
- Cyflawni eich gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid, gan fod ar gael i gynorthwyo’ch cwsmeriaid, yn ôl yr angen
- Clirio cyrsiau gorffenedig o’r bwrdd ar yr adeg briodol, yn systematig, gyda chymorth aelodau eraill o’r staff, ac yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Gwirio llestri, cytleri ac eitemau eraill y bwrdd rhwng cyrsiau. Newid neu fynd ag eitemau oddi yno, yn ôl yr angen
- Cynnal ymddangosiad y bwrdd, trwy glirio gwastraff a gweddillion bwyd yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth ddarparu gwasanaeth arian
- Pam mae’n bwysig cael gwybodaeth gywir am y fwydlen, beth sydd ar gael, cyfansoddiad seigiau, cynhwysion a dulliau coginio
- Beth yw gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer gweini pob cwrs
- Pwysigrwydd rhannu bwyd yn ddognau yn gywir
- Pwysigrwydd cyflwyniad bwyd
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth ddarparu gwasanaeth arian a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth glirio cyrsiau gorffenedig
- Gweithdrefn eich gweithle ar gyfer clirio cyrsiau gorffenedig
- Pam mae’n rhaid cadw ardaloedd ciniawa a gwasanaeth cwsmeriaid yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth glirio cyrsiau gorffenedig a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cyfarpar gwasanaeth
1.1 dysglau / dysglau arian / platiau arian
1.2 cytleri gwasanaeth
1.3 clytiau / llieiniau / menig gweini
2. Dull gweithredu’r gwasanaeth
2.1 digwyddiad
2.2 bwyty
2.3 bwffe / cerfdy
3. Eitemau bwyd
3.1 cawl
3.2 sawsiau / grefi
3.3 eitemau solet (cig / dofednod / tatws / rholiau bara)
3.4 eitemau bach wedi’u torri’n ddarnau (llysiau / reis)
3.5 cig / dofednod wedi’u sleisio
3.6 eitemau siâp lletem (pasteiod / tartenni / gateaux)
3.7 pwdinau wedi’u gweini â llwy
3.8 caws
4. Cyrsiau
4.1 cwrs cyntaf
4.2 prif gwrs
4.3 pwdin / caws
5. Eitemau bwrdd wedi’u clirio
5.1 llestri
5.2 cytleri
5.3 llestri gwydr
5.4 halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd
5.5 eitemau bwrdd / napcynnau