Gweini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa anffurfiol)

URN: PPL2FBS15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Gwasanaeth Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu profiad gwasanaeth bwyd a diod rhagorol i gwsmeriaid mewn amgylchedd ciniawa anffurfiol. Mae’n delio â chyfarch cwsmeriaid a’u cynorthwyo, darparu gwybodaeth i gwsmeriaid i ychwanegu at eu hymweliad, gweini bwyd wrth y bwrdd a chynnal ardal giniawa groesawgar i gwsmeriaid.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i weini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa anffurfiol); fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gweini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa anffurfiol)


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cydnabod eich cwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd, gwirio unrhyw gofnodion bwcio a helpu gyda’u gofynion, yn unol â gweithred gwasanaeth eich gweithle
  2. Rhoi cymorth i gwsmeriaid, fel bo angen
  3. Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y fwydlen gywir i ddewis ohoni
  4. Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
  5. Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau lle y bo’n briodol a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
  6. Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir a’u prosesu’n brydlon ac yn effeithlon
  7. Darparu’r eitemau bwrdd cywir, glân a heb ddifrod i’ch cwsmeriaid, ar yr adegau priodol
  8. Gweini eich cwsmeriaid gan ddefnyddio cyfarpar gweini glân, heb ddifrod a phriodol
  9. Gweini eich cwsmeriaid gyda’r eitemau bwyd o’r safon gywir, ar y tymheredd cywir, ac yn unol ag arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
  10. Cyflawni eich gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid, gan fod ar gael i gynorthwyo’ch cwsmeriaid, lle bo angen
  11. Clirio eitemau bwrdd budr, wedi’u defnyddio a heb eu defnyddio o ardal y cwsmeriaid ar yr adegau priodol, yn unol ag arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
  12. Cadw ardal y cwsmeriaid yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  13. Ailgyflenwi ac ail-lenwi eitemau bwrdd pan fydd angen yn ystod y gwasanaeth
  14. Cadw ardal wasanaeth y cwsmeriaid yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid
  2. Pam dylid gwirio bwydlenni ac eitemau hyrwyddo cyn y gwasanaeth
  3. Pam dylai gwybodaeth am y fwydlen, beth sydd ar gael, cyfansoddiad seigiau, cynhwysion a dulliau coginio a roddir i’r cwsmer fod yn gywir
  4. Y mathau o gymorth y gall fod ar gwsmeriaid eu hangen a sut i ddelio â’r rhain
  5. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gyfarch cwsmeriaid a phrosesu eu harchebion a sut i ddelio â’r rhain
  6. Arferion gweithio diogel a hylan wrth weini cwsmeriaid a chynnal a chadw’r ardal giniawa
  7. Pa gyfarpar gwasanaeth sy’n briodol i wahanol eitemau’r fwydlen a dulliau gweini bwyd
  8. Pa halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd sy’n briodol i bob eitem ar y fwydlen
  9. Pam mae’n rhaid cynnal stoc gyson o eitemau gwasanaeth a bwrdd
  10. Pam dylid cyflwyno bwyd yn unol â manylebau’r fwydlen
  11. Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
  12. Pam mae’n rhaid cadw ardaloedd ciniawa a gwasanaeth cwsmeriaid yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
  13. Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
  14. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini bwyd wrth y bwrdd a sut i ddelio â’r rhain

Cwmpas/ystod

1. Cwsmeriaid
1.1 â gofynion arbennig
1.2 heb ofynion arbennig

2. Gofynion cwsmeriaid
2.1 faint o bobl y mae’n rhaid gosod ar eu cyfer
2.2 gofynion arbennig o ran rhoi pobl i eistedd
2.3 gofynion dietegol

3. Dull gweithredu’r gwasanaeth
3.1 bwrdd
3.2 digwyddiad

4. Gwybodaeth
4.1 y seigiau sydd ar gael
4.2 cyfansoddiad seigiau, cynhwysion a’r dull coginio
4.3 prisiau
4.4 cynigion arbennig a hyrwyddiadau

5. Eitemau bwrdd
5.1 llestri
5.2 cytleri
5.3 llestri gwydr
5.4 napcynnau
5.5 halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd

6. Cyfarpar gwasanaeth
6.1 cytleri
6.2 dysglau / platiau arian
6.3 clytiau / llieiniau gweini / opsiynau papur
6.4 hambyrddau, troliau

7. Dull gwasanaeth
7.1 ar blât


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2FBS15

Galwedigaethau Perthnasol

Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar

Cod SOC

9264

Geiriau Allweddol

gweini; bwyd; anffurfiol